Rhwydwaith Myfyrwyr
Mae gan holl Neuaddau Preswyl y Brifysgol gysylltiad 10mbps trwy soced rhwydwaith gwifrog ym mhob ystafell wely. Nid oes unrhyw gostau cysylltu neu ddefnyddio am y gwasanaeth hwn. Mae'r gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn unig.
Defnyddio'r rhwydwaith
Wrth ddefnyddio'r rhwydwaith rydych yn rhwym i Reoliadau a Chanllawiau'r Gwasnaethau Gwybodaeth a dylech ymgyfarwyddo'ch hun â'r rhain. Mae'r canllawiau ar Ddefnyddio cyfrifiaduron at ddefnydd anacademaidd gan fyfyrwyr o ddiddordeb arbennig i ddefnyddwyr Rhwydwaith y Neuaddau.
Mae'n hanfodol pan fyddwch yn cysylltu eich cyfrifiadur â Rhwydwaith y Neuaddau eich bod yn sicrhau ei fod yn ddiogel rhag ymosodiadau firws, ysbïwedd, hacio a defnydd anawdurdodedig gan ddefnyddwyr eraill. Dylech ddarllen a dilyn ein cyngor ar gadw eich cyfrifiadur yn ddiogel.
Mae gan Rwydwaith y Neuaddau ei wal dân ei hun, sy'n gweithio ar sail gwadu rhagosodedig. Ond, mae modd i'r myfyrwyr agor pyrth yn y wal dâl os bydd angen i alluogi i raglenni neu gymwysiadau gael eu rhedeg. Ceir manylion ynghylch sut mae'r wal dân hwn yn gweithio a sut mae agor pyrth yn ein tudalen Cwestiwn Cyffredin.
Pan fyddwch wedi cysylltu â Rhwydwaith y Neuaddau bydd modd i chi ddefnyddio eich storfa ffeil Prifysgol, yr argraffyddion cyhoeddus a'r adnoddau gwybodaeth electronig o'ch ystafell yn y neuaddau.
Cysylltu eich cyfrifiadur â'r rhwydwaith
I gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhwydwaith bydd yn rhaid i chi fod â'r canlynol:
- cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth
- cyfrifiadur gyda cherdyn ethernet (rhyngwyneb rhwydwaith), mae'r rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn dod â'r cerdyn hwn bellach.
- cyfrifiadur sy'n rhedeg Windows Vista, XP neu 7, Apple Mac OS X 20.4 (Tiger) neu uchod, Linux gyda chyfarpar 802.1x
- cebl rhwydwaith RJ45 - mae'r rhain ar gael i'w prynu ar y campws
- Gosod eich cyfrifiadur i weithio yn y neuaddau
Cymorth a Chefnogaeth
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gysylltu eich cyfrifiadur â Rhwydwaith y Neuaddau gallwch roi cynnig are in canllawiau i ddatrys problemau.
Os oes gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau ynghylch cysylltu neu ddefnyddio Rhwydwaith y Neuaddau cysylltwch â ni.