Offeryn Darganfod Digidol Jisc
Mewngofnodi i'r Offeryn Darganfod Digidol
Mae Offeryn Darganfod Digidol Jisc yn adnodd dwyieithog sy'n galluogi myfyrwyr a staff i hunanasesu eu sgiliau digidol. Bydd yn eich galluogi i nodi eich cryfderau yn ogystal â thynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach.
Ar ôl ateb cyfres o gwestiynau, sy'n cymryd tua 15-20 munud, byddwch chi'n derbyn adroddiad personol a fydd yn cynnwys:
- Trosolwg o'ch proffil digidol
- Camau a awgrymir i'w cymryd
- Dolenni i adnoddau defnyddiol, a fydd yn cefnogi datblygiad pob sgil unigol