Gwaith yr Hen Goleg yn datgelu olion tân mawr 1885

05 Ebrill 2024

Daeth gweddillion y tân mawr a ddinistriodd lawer o Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth i’r golwg wrth i’r gwaith i adfer yr adeilad rhestredig Gradd 1 brysuro.

Gŵyl eplesu ym Mhrifysgol Aberystwyth

05 Ebrill 2024

O kombucha i kefir a sauerkraut, caiff manteision bwydydd wedi eplesu i'n meddyliau a'n cyrff sylw arbennig mewn Gŵyl Eplesu ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill.

Adroddiad The Cambrian News and Meirionethshire Standard am y tân

05 Ebrill 2024

Yn ystod noson yr 8fed/9fed o Orffennaf 1885 llosgwyd yr Hen Goleg gan dân. Tŷr Castell, preswylfa’r Prifathro ac adain ddeheuol yr adeilad oedd yr unig rannau na chafodd eu heffeithio.

Y Brifysgol i gynnal sesiynau trawsnewidiol yng Ngŵyl y Gelli: Ail-ddychmygu Democratiaeth, Heddwch a Bioamrywiaeth

09 Ebrill 2024

Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi ei bod yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli 2024, sy’n enwog am ddod â meddylwyr, awduron ac artistiaid ynghyd i archwilio pŵer syniadau ac adrodd straeon. 

Gallai tyfu cnydau dan do fod yn rhan allweddol o ddiogelwch bwyd y dyfodol

09 Ebrill 2024

Mae angen cyflymu datblygiad amaeth amgylchedd rheoledig a thechnoleg amaethu fertigol er mwyn mynd i’r afael â heriau diogelwch bwyd y Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol, yn ôl arweinydd prosiect ymchwil newydd. 

Eclips yr Haul 2024: Ras tîm Aberystwyth tuag at yr Haul

09 Ebrill 2024

Bu'n rhaid i wyddonwyr o Aberystwyth a'r Unol Daleithiau oedd wedi teithio i Dallas, Texas, i astudio’r diffyg ar yr haul newid eu cynlluniau ar fyr-rybudd wedi i gymylau darfu ar eu trefniadau.

Pam bod cyn lleied o wrachod wedi eu dienyddio yng Nghymru’r oesoedd canol

11 Ebrill 2024

Gan ysgrifennu yn The Conversation, mae Mari Ellis Dunning o’r Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn trafod sut roedd elfennau gwahanol o ddiwylliant Cymru, gan gynnwys ofergoeledd a chrefydd, yn golygu na welodd Gymru y treialon a’r dienyddio gwrachod a welwyd mewn mannau eraill ym Mhrydain ac Ewrop.

Gwahodd y cyhoedd i rannu eu barn ar frandio prosiect yr Hen Goleg

11 Ebrill 2024

Wrth i waith adeiladu brysuro ar y safle, mae’r stiwdio greadigol arobryn Elfen wedi’i chomisiynu i edrych ar y gwerthoedd y mae’r prosiect yn eu cynrychioli a datblygu syniadau ar gyfer hunaniaeth brand ar gyfer prosiect yr Hen Goleg.

Rhyfel Wcráin: Mae defnydd dinistriol Rwsia o ‘glide-bombs’ o’r oes Sofietaidd yn dangos bod angen systemau amddiffyn awyr ar Kyiv ar frys.

12 Ebrill 2024

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Gerald Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod defnydd dinistriol Rwsia o 'glide-bombs' yn Wcráin.

Darlith gyhoeddus ar ddyfodol y Deyrnas Unedig

19 Ebrill 2024

“Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Myfyrwyr yn ennill gwobrau mawreddog yn seremoni'r Gymdeithas Deledu Frenhinol

24 Ebrill 2024

Mae myfyrwyr a graddedigion diweddar dawnus o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi ennill gwobrau yn seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru Wales.

Y Brifysgol yn ymuno â Mai Di Dor

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn ymgyrch ‘Mai Di Dor’ Plantlife unwaith eto eleni fel rhan o’i gwaith i hyrwyddo bioamrywiaeth ar ei champysau.

Rhybudd ‘Cwci’ yn ennill ‘Gwobr y Bobl’ i fyfyriwr o Aberystwyth

26 Ebrill 2024

Mae myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi annog defnyddwyr cyfrifiaduron i “feddwl cyn clicio” pan fyddant yn derbyn cais i dderbyn cwcis ar-lein.

Prosiect blychau nythu Aberystwyth yn edrych ar effaith newid hinsawdd ar fridio adar

30 Ebrill 2024

Mae blychau nythu newydd wedi ymddangos o amgylch Aberystwyth fel rhan o astudiaeth newydd i ddeall sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar y gystadleuaeth rhwng adar.

Mae teledu realiti ar ei wely angau - pam fod The Traitors yn cynnig llygedyn o obaith

30 Ebrill 2024

Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Athro Jamie Medhurst o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn trafod teledu realiti a sut gallai rhaglenni fel The Traitors helpu i adfer eu poblogrwydd.

Athro o Aberystwyth yn arwain ei seremoni swyddogol gyntaf fel Archdderwydd

30 Ebrill 2024

Mae'r bardd arobryn ac Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Mererid Hopwood, wedi arwain ei seremoni swyddogol gyntaf fel Archdderwydd, pennaeth Gorsedd y Beirdd.