David Pearson

Graddiodd David o Aber yn 1987 gyda BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol. 

Darllenwch mwy gan David

Beth yw eich gwaith?

Swyddog Troedfilwyr - Y Fyddin Brydeinig - Bataliwn Cyntaf Catrawd Worcestershire and Sherwood Foresters. Swydd bresennol: Pennaeth Ysgol, Maine Central Institute. 

Beth oedd uchafbwynt astudio yn Aberystwyth?  

Mynd i Gynhadledd Ryngwladol ar Reoli Arfau, a gynhaliwyd yn Dubrovnik, Croatia

Pa dri gair fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio eich profiad yn astudio yn Aberystwyth?  

Rhagorol, Ysbrydoledig, Hwyl

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol? 

Manteisiwch ar bob cyfle sy’n dod i’ch rhan.  Yng ngeiriau enwog y seren hoci iâ Wayne Gretzky, 'rydych chi'n methu 100% o'r ergydion nad ydych yn eu cymryd".