Newyddion, Digwyddiadau ac Aduniadau
Newyddion
Fe gewch y newyddion diweddaraf o Brifysgol Aberystwyth yma.
Digwyddiadau
Mae ein digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi'u gohirio am y tro o ganlyniad i ganllawiau COVID-19 y Llywodraeth ac i ddiogelu ein cyn-fyfyrwyr a'n cefnogwyr.
I sicrhau eich bod yn clywed am y digwyddiadau sydd gennym ar y gweill, gan gynnwys gwybodaeth am aduniadau y gallech gael eich gwahodd iddynt, cymerwch funud fach i ddiweddaru'r manylion sydd gennym amdanoch chi.
Rydym eisoes yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i gynllunio dathliadau'r dyfodol. Cewch wybod sut y gallwch fod yn rhan o'r dathliadau hyn cyn bo hir.
Aduniadau
Os ydych yn dathlu carreg filltir arbennig, neu'n ceisio dyfalu beth mae eich ffrindiau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol yn ei wneud erbyn hyn, mae nawr yn amser gwych ichi ddod at eich gilydd.
Mae aduniadau yn ffordd wych o gysylltu unwaith eto â hen ffrindiau ac i gofio am eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. I nifer o fyfyrwyr Aber, mae'r ffrindiau y maent yn eu gwneud yn y Brifysgol yn ffrindiau am oes.
Bob blwyddyn, rydym yn trefnu ac yn cynnal aduniad blynyddol i'n cyn-fyfyrwyr ar y campws mewn partneriaeth â Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Yn anffodus, mae'r digwyddiad y bwriadwyd ei gynnal i ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu'r Adran Gyfrifiadureg, a oedd i fod i ddigwydd rhwng y 26ain a'r 28ain o Fehefin, wedi'i ganslo.
Aduniadau ar y gweill gan ein cyn-fyfyrwyr
Galw holl breswylwyr Neuadd Padarn ar ddiwedd y 60au.
Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb i ailgysylltu â chyd-breswylwyr Neuadd Padarn, yn enwedig y rhai o ddiwedd y 60au. Mae Brian Heathcote, cyn-breswylydd a chyn-fyfyriwr yn gobeithio trefnu aduniad yn y dyfodol a byddai wrth ei fodd yn clywed gennych.
Dod o Hyd i Ffrind
Gallwn eich cefnogi chi drwy eich helpu i gysylltu unwaith eto â hen ffrindiau. Os ydych yn ystyried trefnu aduniad, cysylltwch â ni drwy e-bostio alumni@aber.ac.uk
Oherwydd ein polisïau diogelu data, ni allwn ddatgelu manylion personol neb. Serch hynny, rydym yn fwy na pharod i anfon negeseuon at bobl a chysylltu â'ch hen ffrindiau ar eich rhan. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn diweddaru eich manylion eich hun rhag ofn i rywun geisio dod o hyd i chi.
Byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych chi a'ch helpu i gysylltu â phobl.