Enrique Uribe-Jongbloed

Graddiodd Enrique o Aber yn 2013 gyda PhD o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Yn ogystal â’i astudiaethau academaidd, manteisiodd Enrique ar y cyfle i ddysgu Cymraeg tra’r oedd yn byw yma.

Darllenwch mwy gan Enrique

Beth yw eich gwaith? 

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel cymrawd ymchwil ar brosiect Media Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd fy astudiaethau yn Aberystwyth yn edrych ar gyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol (Cymraeg yn arbennig) yn hanfodol i mi allu cyfrannu ar y prosiect hwn. Ar ôl cwblhau fy ngradd PhD bûm yn gweithio yn sector prifysgolion preifat Colombia fel uwch ddarlithydd.

Beth oedd uchafbwynt astudio yn Aberystwyth?  

Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru bob dydd at ddibenion ymchwil, cymryd rhan mewn sgyrsiau cyffrous yng Nghanolfan y Celfyddydau ac yn y tafarndai, gwrando ar y Gymraeg yn cael ei siarad mewn gwahanol leoedd ac ymdrwytho yn y diwylliant Cymreig.

Pa dri gair fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio eich profiad yn astudio yn Aberystwyth?  

Goleuedig, cyffrous ac unigryw.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol? 

Mwynhewch y lleoliad, y Llyfrgell Genedlaethol a bywyd bywiog y brifysgol. Ymunwch â chlybiau ac ewch i weld dramâu ac arddangosfeydd yn rheolaidd.