Paul Butterworth

Graddiodd Paul Butterworth o Aber yn 1996 gyda LLB. Bu’n Is-Gomander yn y Llynges Frenhinol cyn gadael yn 2005 i ddilyn gyrfa mewn recriwtio rhyngwladol.

 

Darllenwch mwy gan Paul

Beth yw/oedd eich gwaith?

Cefais fy noddi trwy Aberystwyth gan y Llynges Frenhinol felly ar ôl graddio dychwelais i'r gwasanaeth. Treuliais y naw mlynedd nesaf ar y môr, yn is-gapten ar ddwy long a theithio'r byd. Yn 2005, gadawais y llynges i fynd i weithio yn y Ddinas, lle rwyf yn heliwr pennau yn y sector Morol a Llongau. Ers 2015 rwyf yn bartner ym mhrif gwmni chwilio rhyngwladol y DU, Odgers, lle rwyf hefyd yn Gadeirydd y Practis Teithio a Logisteg Byd-eang.

Beth oedd uchafbwynt astudio yn Aberystwyth?  

Mae ansawdd y dysgu yn wych ac mae'n lleoliad hyfryd i astudio ynddo.

Pa dri gair fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio eich profiad yn astudio yn Aberystwyth?  

Hwyl, cyfeillgarwch ac awyr iach!

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol? 

Cofleidiwch bopeth sydd gan Aber i'w gynnig - astudio, chwaraeon neu gyfleoedd cymdeithasol - a 'chiciwch y bar' gymaint o weithiau ag y gallwch bob wythnos!