Ciniawau Pen-blwydd y Gyfraith

Mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, a'r Canghellor, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, yn eich gwahodd i ddathlu 120fed pen-blwydd Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y noson, a ddaw â chyn-fyfyrwyr, staff, cyn aelodau staff a myfyrwyr presennol ynghyd, yn cynnwys derbyniad diodydd, cinio tri chwrs a siaradwr gwadd arbennig. Cyfle gwych i ailgysylltu ac hel atgofion gyda hen ffrindiau, a chwrdd â chyfoedion.

Archebu bellach ar gau.