Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanrwst Derbyniad y Cyn-fyfyrwyr Dydd Mercher 07 Awst

Mae Prifysgol Aberystwyth a Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn eich gwahodd i dderbyniad y cyn-fyfyrwyr ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanrwst.

Amser: 2.00yp - 4.00yp

Dyddiad: Dydd Mercher 07 Awst 2019

Lleoliad: Stondin Prifysgol Aberystwyth M05

Bydd anerchiad byr gan Dr Rhodri Llwyd Morgan (Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol) a’r gyn-fyfyrwraig, Non Gwilym (Pennaeth Cyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru) gyda derbyniad diodydd i ddilyn.

Mae hwn yn wahoddiad agored i holl raddedigion Aber - nid oes angen cofrestru. Mae croeso i chi rannu'r neges gyda'ch cyd-raddedigion.

*Sylwch nad yw gwahoddiad i’r digwyddiad hwn yn cynnwys tocyn mynediad i’r Eisteddfod.