Dr Bethany Aylward

PhD ‘Capturing Social Movements: Web Archiving Needs of Activist Collections in The North', Prifysgol Sheffield (2024) MA Llyfrgellyddiaeth, Prifysgol Sheffield (2018) BA Rwseg a Hanes, Ysgol Astudiaethau Slafonig a Dwyrain Ewrop, Coleg Prifysgol Llundain (2014)

Dr Bethany Aylward

Associate Lecturer in Information Studies

Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Manylion Cyswllt

  • Ebost: bea40@aber.ac.uk
  • Swyddfa:3.16 Adeilad Penbryn 5
  • Personal Pronouns: Hi/ei

Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth eleni, roeddwn yn Athro Prifysgol ar y cwrs MA Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Sheffield lle y gwnes i hefyd gwblhau fy PhD yn ymchwilio i anghenion gwe-archifo yr archifau ymgyrchwyr cymunedol yn y DU. Mae gen i radd MA mewn Llyfrgellyddiaeth, hefyd o Brifysgol Sheffield. Rwy'n rhan o grŵp trefnu Archif Ffeministaidd Sheffield, sefydliad gwirfoddol sy'n dogfennu bywydau a phrofiadau unigolion sy’n hunan-adnabod fel menywod yn ardal Sheffield. Rwyf hefyd yn ymddiriedolwr y Gymdeithas dros Gydweithrediad mewn Astudiaethau Rwsiaidd a Sofietaidd, llyfrgell, archif a chanolfan ddiwylliannol yn Llundain lle roeddwn yn gwirfoddoli fel llyfrgellydd celf yn flaenorol.

Fy mhrif ffocws ymchwil yw’r croestoriad rhwng astudiaethau archif beirniadol a mudiadau cymdeithasol cyfoes. Ar hyn o bryd rwy'n ymwneud â dau brosiect ymchwil sy'n edrych ar: y naratifau o amgylch cyflwyno Cardiau Adnabod digidol yn y DU, ac effaith DA cynhyrchiol ar ymddygiad gwybodaeth. Rwyf hefyd wedi cynnal ymchwil gyda'r Cenhedloedd Unedig yn edrych ar effaith eu cynnyrch gwybodaeth ar ddatblygiad cynaliadwy sefydliadau ar lawr gwlad.