Diogelwch

Mae Gwasanaeth Diogelwch Safle Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu 24/7, bob diwrnod o’r flwyddyn. Rydym bob amser ar gael i gynnig cymorth a chyngor i Fyfyrwyr, Staff ac aelodau o’r cyhoedd ar faterion yn ymwneud â diogelwch.

Mae gennym gampws diogel a lefelau isel o droseddu. Ein nod yw cynnal amgylchedd academaidd a busnes diogel drwy ddiogelu pobl, gwybodaeth, eiddo ac enw da’r Brifysgol.

Cadwch y rhif allanol i’w ffonio mewn argyfwng, sef 01970 622649, yn eich ffôn boced os gwelwch yn dda.

Diogelwch bob awr o'r dydd

Mae canolfan Tîm Diogelwch y Brifysgol yn Nerbynfa'r Campws. Maen nhw wrth law i gynorthwyo 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn, ar y campws ac oddi arno.

Rydyn ni'n cynnig cyngor ynghylch rhwystro troseddu, yn patrolio ystâd y Brifysgol, yn rheoli trafnidiaeth a pharcio, ac yn ymateb i unrhyw fater sydd angen sylw brys.

Yn ogystal â chadw'r Brifysgol yn ddiogel, mae ein Tîm Diogelwch ar gael bob amser i'ch cynorthwyo gyda materion lles.

I gysylltu â ni i gael gwybodaeth neu gyngor, neu i sôn am drosedd, e-bostiwch: ssetaff@aber.ac.uk, ffôn: 01970 622649 neu galwch heibio Derbynfa'r Campws unrhyw adeg a gofyn i siarad ag un o'r Tîm Diogelwch.

Mewn argyfwng ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu symudol 07889 596220.

Mae 'na hefyd ffurflen ar-lein i Gofnodi Digwyddiad a byddwn yn gweithredu arni ar ôl ei derbyn. 

Gwelerisod am wybodaeth ychwanegol:

Mae Gwasanaethau Diogelwch y Safle yn gweithredu o’r Ystafell Reoli yn Nerbynfa’r Campws. Rydym yn darparu cyngor ar atal troseddau, yn patrolio ystâd y Brifysgol, yn rheoli’r traffig a’r parcio, ac yn ymateb i unrhyw fater sydd angen sylw ar unwaith.

I gysylltu â ni am wybodaeth, cyngor neu i roi gwybod inni am drosedd, anfonwch e-bost at sitesecurity@aber.ac.uk, ffoniwch 01970 622649 (mewnol 2649) neu 07889 596220 neu galwch heibio i Dderbynfa Campws Penglais a gofynnwch am gael siarad ag aelod o’r tîm Diogelwch. Hefyd, gallwch lenwi ffurflen adrodd am ddigwyddiad ar-lein. Byddwn yn gweithredu arni gynted ag y daw i law.

Am wybodaeth am ddiogelwch tân gweler tudalennau Diogelwch Tân y Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.

Mae Diogelwch y Safle yn darparu patrolau diogelwch i’r tri champws, yn ogystal ag eiddo yn y dref, adeiladau fferm a chyfleusterau storio. Mae’r patrolau yn sicrhau bod yr holl ddrysau allanol, ffenestri llawr gwaelod a ffenestri eraill y gellir cyrraedd atynt wedi’u cloi. Disgwylir i bawb sy’n defnyddio neu’n byw yn adeiladau’r Brifysgol sicrhau bod y ffenestri a’r drysau mewnol yn eu mannau gwaith neu astudio ar gau cyn ymadael.
Os ydych yn gweithio y tu allan i’r oriau agor, gan gynnwys penwythnosau a diwrnodau pan mae’r Brifysgol ar gau yn swyddogol, dylech:

• Gario eich Cerdyn Aber staff bob amser
• Wrthod mynediad i bobl eraill nad ydych yn eu hadnabod, neu sydd heb ganiatâd i gael mynediad i’r adeilad y tu allan i oriau arferol
• Hysbysu Diogelwch y Safle os oes unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, drwy ffonio 01970 622649

Yn ogystal ag edrych ar ôl yr adeiladau academaidd, mae ein Tîm Diogelwch yn patrolio'r llety preswyl yn y nos yn ystod y tymor i ddarparu diogelwch ychwanegol o amgylch y blociau llety.

Maent wedi'u hyfforddi ac maent ar gael i ymdrin â materion lles a allai ddigwydd y tu allan i oriau gwaith.
Mae'r staff Diogelwch ar gael trwy gydol oriau'r nos os yw myfyriwr yn teimlo'n anhwylus, yn teimlo angen siarad â rhywun, neu os oes ganddynt bryder yr hoffent ei drafod.

Maent hefyd ar gael i ymdrin â dadleuon neu gweryl a allai ddigwydd rhwng myfyrwyr sy'n rhannu fflatiau cyn i'r sefyllfa fynd yn ddrwg. Fel arfer mae hyn yn cynnwys monitro lefelau sŵn a gwneud yn sicr bod myfyrwyr yn cael llonydd i astudio mewn heddwch yn ystod yr wythnosau darllen.

Wrth i'r Tîm Diogelwch fynd ar batrôl maent hefyd yn cadw golwg am unrhyw beryglon iechyd a lles ac yn gwneud yn sicr nad oes neb wedi ymyrryd â'r cyfarpar tân.

Mae'r Tîm Diogelwch wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac ymateb cyntaf i larwm tân, sy'n golygu mai hwy fel arfer yw'r man cyswllt cyntaf mewn argyfwng.

Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Camerâu Cylch Cyfun, ac mae dros 250 o gamerâu ledled ystâd y Brifysgol. Caiff hwn ei fonitro gan staff mewnol yn yr Ystafell Reoli. Prif ddibenion y system yw:

• Atal ymddygiad tramgwyddus a gwrthgymdeithasol.
• Atal a chanfod troseddau, gan gynnwys lladrata a difrod troseddol.
• Gwella diogelwch a lles aelodau o staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
• Cynorthwyo rheolaeth gyffredinol yr adeiladau ac adnoddau’r campws.

Gweler Cod Ymarfer y Brifysgol ar Gamerâu Cylch Cyfun am ragor o wybodaeth.