Eiddo Coll

Nid yw'r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiogelwch eiddo personol y defnyddiwr. Byddwch cystal â gofalu am eich eiddo a labelu dyfeisiau cludadwy gyda'ch enw llawn, rhif cyfeirnod myfyriwr neu enw defnyddiwr.

Dylai unrhyw eiddo coll gael ei gyflwyno i Borthorion yr Adeilad neu i’r ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen.

Bydd eiddo coll yn cael ei gofnodi ar ein cronfa ddata Eiddo Coll.

Byddwn yn ceisio canfod perchennog unrhyw eiddo coll a, lle bo’n bosibl, byddwn yn cysylltu â nhw i roi gwybod iddynt fod yr eitem wedi’i darganfod.  

Dychwelir eitemau yn y cyflwr y cawsant eu derbyn.

Os ydych yn chwilio am eitemau o eiddo coll, cysylltwch â Phorthorion yr Adeilad neu Staff y Llyfrgell gyda disgrifiad manwl o’r eitem yn ogystal â’r dyddiad y’i collwyd.

I gysylltu â Phorthorion yr Adeilad:

Lleoliad Swyddfa’r Porthorion

Rhif Cyswllt

Adeiladau perthnasol

Adeilad Hugh Owen

2872

Hugh Owen, Parry Williams, P5, P4

Adeilad Llandinam

2876

Daearyddiaeth, Llandinam, Cyfrifiadureg, Ffiseg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adeilad Edward Llwyd

2873

Y Ganolfan Ddelweddu, Cledwyn, Ibers Newydd, Edward Llwyd

Adeilad William Davies, Gogerddan

3025

Holl Adeiladau Campws Gogerddan

Adeilad Elystan Morgan

2877

Holl Adeiladau Campws Llanbadarn

Yr Hen Goleg

2064

Yr Hen Goleg, Maes Lowri, Theatr y Castell, Yr Ysgol Gelf

Gofynnir i unrhyw un sy’n hawlio eiddo i ddangos eu Cerdyn Aber neu gerdyn adnabod arall i gadarnhau eu hunaniaeth a gofynnir iddynt am wybodaeth fanwl am yr eitem i brofi perchnogaeth. Os yw’r eitem sy’n cael ei hawlio yn cynnwys gwybodaeth adnabod sy’n cynnwys llun, byddwn yn gwirio bod y llun yn cyfateb i’r hawlydd.

Os na hawlir eiddo coll o fewn y cyfnod cadw, caiff ei ailgylchu neu ei waredu mewn modd cyfrifol. Caiff yr holl ddata personol ei dynnu a’i ddinistrio’n ddiogel.

Amseroedd cadw a gwaredu eiddo coll

 

Eitemau Gwerthfawr

Eitemau sy'n cynnwys Data Personol

Bwyd a Diod

Eitemau Eraill

 

Gemwaith
Waledi/Pyrsiau
Ffonau Symudol
Camerau
Gluniaduron
Eitemau trydanol gwerthfawr eraill

Pasbport
Trwydded Gyrru
Cardiau credyd / Cardiau debyd
Allweddi
Cof bach

Bydd bwyd a diod yn cael eu waredu ar unwaith.

Dillad
Fflasgiau / poteli
Blychau Bwyd
Llyfrau (nad ydynt yn eiddo i'r llyfrgell )
Eitemau Chwaraeon
Folderi Gwaith / Papur
Gwefryddiau / ceblau

Gweithred

Os oes modd adnabod y perchennog, cysylltir â hwy yn eu cynghori i gasglu'r eitem o'r Llyfrgell.

Bydd eitemau'n cael eu cadw am bythefnos, ac wedi hynny byddant yn cael eu hailgylchu neu eu rhoi i elusen fel sy'n briodol..

Os oes modd adnabod y perchennog, cysylltir â hwy yn eu cynghori i gasglu'r eitem o'r Llyfrgell. Rhaid i berchnogion gasglu eitemau o fewn pythefnos i'r hysbysiad.

Os oes modd adnabod y perchennog, cysylltir â hwy yn eu cynghori i gasglu'r eitem o'r Llyfrgell. Rhaid i berchnogion gasglu eitemau o fewn pythefnos i'r hysbysiad.

Os na ellir adnabod y perchennog, ymdrinnir â'r eitemau fel a ganlyn:

  • Pasbort – Dychwelyd i'r Swyddfa Basbort
  • Trwydded Yrru – Dychwelyd i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau DVLA
  • Credyd / Cardiau Debyd – wedi'i chanslo gyda'r banc a'i dinistrio
  • Allweddi – ei dinistrio
  • Cof bach – Disodli ac Ailgylchu.

 

Cedwir eitemau am bythefnos cyn cael eu hailgylchu neu eu rhoi i elusen