Dr Angharad Jones

PhD, BmG Astudiaethau Cymunedol a Iechyd Cymhwysol; GPMA (gan ymgorffori’r Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes); Dip AU Nyrsio; Nyrs Gofrestredig - Plant; Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbennigol; Athro Nyrsio Cofrestredig, SFHEA

Dr Angharad Jones

Lecturer in Healthcare Education

Manylion Cyswllt

Mae Angharad yn aelod sefydledig o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ac roedd yn aelod o Bwrdd Prosiect y Radd Nyrsio a ddiogelodd y tendr i ddarparu addysg nyrsio cyn-gofrestredig (meysydd oedolion ac iechyd meddwl) ar gyfer canolbarth Cymru.  Roedd hi hefyd yn rhan o dîm Addysg Gofal Iechyd a sicrhaodd achrediad penagored y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i Brifysgol Aberystwyth i fod yn Sefydliad Addysgol Cymeradwyol.

Mae Angharad wedi gweithio mewn meysydd clinigol (AU & GIC), addysg nyrsio ac ymchwil am y 25 mlynedd diwethaf.  Yn ogystal â’i chymhwyster NG Nyrsio Plant (Prifysgol Swydd Stafford) a chefndir clinigol o nyrsio pediatreg, mae hefyd yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol -Nyrsio Ysgol (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrian Cymru – Prifysgol Glyndwr nawr) ac yn Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigaeth wedi iddi gwblhau cwrs GPMA (gan ymgorffori’r Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes) gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd, lle gwobrwywyd a Chyrhaeddiad Arbennig. 

Mae ganddi brofiad a diddordeb penodol mewn modelau nyrsio cymunedol, egwyddorion Un Iechyd, ymchwil gofal iechyd, iechyd gwledig - yn enwedig y gweithlu iechyd gwledig, modelau o ddarparu gwasanaethau/addysgu iechyd gwledig ac iechyd a llesiant ym mhlith cymunedau amaethyddol.  Mi gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2023.

Mae cyfrifoldeb Angharad yn cynnwys:

  • Tiwtor Personol
  • Tiwtor Cysylltiol Addysgol
  • Tiwtor Derbyn

 

Yn ogystal, mae’n arwain y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn y meysydd canlynol:

  • Defnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr ac Aelodau o’r Cyhoedd
  • Ymchwil
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Iechyd Gwledig
  • Cynaladwyedd
  • Un Iechyd
  • Aelod Cysylltiol Addysg Bellach
  • Diogelwch Biolegol
  • Dogfennaeth Glinigol

Mae Angharad wedi ei geni a’i magu mewn ardal amaethyddol wledig yng Nghanolbarth Cymru.  Mae hi yn rhugl yn y Gymraeg, and yn frwdfrydig ynglŷn â sicrhau gwasanaethau gofal ac iechyd a darpariaeth ecwiti i breswylwyr gwledig.

Mae Angharad yn angerddol am ddarpariaeth o nyrsio ansawdd uchel mewn ardaloedd gwledig ac felly, mi benderfynodd ddilyn cwrs PhD gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2016, i geisio deall pan fod ardaloedd gwledig yng Nghanolbarth Cymru yn ymdrechu i recriwtio a chadw ei gweithlu nyrsio, gan gwblhau'r doethuriaeth yn 2023.  Derbyniodd arweiniant oddi wrth Dr Rachel Rahman a Dr Jiaqing O - Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth.  Mae ei ymchwil wedi cyfrannu i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol fel a ganlyn:

Mai 2023

Cymdeithas Seicoleg Prydeinig - Cyflwyniad llafar:

‘Inclusive of inequitable? Discussing the Welsh nursing workforce recruitment challenge through a social class lens’

Tach 2022

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster:

‘A historical account of rural health and care services: a brief journey through time’

Ion 2022

Cymdeithas Ddysgiedig Cymru – Cyd-ennillydd am gyflwyniad poster a llafar:

‘The Excitement of the City: the perspectives of Welsh urban working nurses regarding the rural recruitment challenge’

Tach 2019

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:

How urban based nurses can inform the rural recruitment challenge’

Tach 2019

Argraffiad (Journal of Rural Studies – Ffactor Effaith 3.3):

Jones, A., Rahman, R. J. & O, J. (2019). A crisis in the countryside - Barriers to nurse recruitment and retention in rural areas of high-income countries: A qualitative meta-analysis. Journal of Rural Studies. 72. 153-163.

Chwe 2019

Cynhadledd Arddangos Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cyflwyniad poster:

‘Time and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’

Tach 2018

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:

Time, Traffic and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’   

Tach 2017

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster:

Health in the HINTERLANDS: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’

Gorff 2017

Cynhadledd Ysbrydoli Arloesi mewn YmarferCyflwyniad llafar:

Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’

Meh 2017

Trans-Atlantic Rural Research Network – Papur Trafod/Llafar:

Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’

Mai 2017

Cynhadledd Prif Swyddog Nyrsio - Cyflwyniad poster:

‘Health in the Hinterlands: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’

A crisis in the countryside - Barriers to nurse recruitment and retention in rural areas of high-income countries: A qualitative meta-analysis. / Jones, Catrin Angharad; Rahman, Rachel; O, Jiaqing.
In: Journal of Rural Studies, Vol. 72, 31.12.2019, p. 153-163.

Research output: Contribution to journalReview Articlepeer-review

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil