Hysbysiad Diogelu Data ar gyfer Addysg Gofal Iechyd a Nyrsio

Trosolwg

Mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd wedi sicrhau llwyfannau a chymwysiadau ychwanegol a fydd yn eich cynorthwyo chi fel ymarferwyr gofal iechyd dan hyfforddiant i sicrhau cynnydd yn eich astudiaethau. 

Defnyddir y llwyfannau canlynol fel rhan o'r broses o gyflwyno eich cyrsiau a byddant yn gwella eich profiad dysgu.  Maent yn eich galluogi i atgyfnerthu yr elfen ymarferol o’r theori a ddysgwyd, i fyfyrio a rhoi adborth i chi ar eich cynnydd a'ch canlyniadau dysgu. Felly, mae’n orfodol i chi ymwneud â’r llwyfannau amrywiol hyn fel rhan o’ch cwrs:  

 

Llwyfan

Disgrifiad

Nod

Polisi Preifatrwydd Virtus Tech

 

Senario fideo rhithwir 360 wedi'i seilio ar realiti a’i gynllunio i ddysgu, atgyfnerthu ac asesu gwybodaeth dysgwyr a’u sgiliau wrth wneud penderfyniadau.

 

Atgyfnerthu dysgu drwy ymarfer rhithwir  

Bodyswaps

Mae Bodyswaps yn cynnig llyfrgell o efelychiadau parod o’r gweithle i ymarfer sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth mewn amgylcheddau diogel a realistig.

Atgyfnerthu dysgu drwy ymarfer rhithwir  

ClinicalSkills.net

Adnodd hyfforddi ar-lein i gefnogi dysgu sgiliau clinigol.

Atgyfnerthu dysgu drwy ymarfer rhithwir  

Meddalwedd Simcapture: Laerdal

Datrysiad rheoli dysgu ar gyfer efelychu a dysgu mewn gofal iechyd.

Atgyfnerthu dysgu drwy ymarfer rhithwir  

SafeMedicate: Authentic World

Datblygu ac asesu eich sgiliau gan ddefnyddio adnodd mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer myfyrwyr ac ymarferwyr gofal iechyd.

Atgyfnerthu dysgu drwy ymarfer rhithwir  

EPAD:  MyKnowledgeMap

Asesu ac e-Bortffolio Meddygaeth a Gofal Iechyd yn y Gweithle 

Dogfennu a chyfeirio cyraeddiadau ymarfer clinigol.

Mae Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr y Brifysgol yn rhoi gwybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn trin data personol ei myfyrwyr.  Yn ogystal, gweler y dolenni uchod am hysbysiadau diogelu data penodol y llwyfannau.

Mae'r hysbysiad diogelu data hwn yn esbonio sut y defnyddir eich data personol, a gesglir drwy'r gwefannau hyn.

Pa fath o ddata personol rydym yn ei gasglu drwy'r gwefannau hyn?

Ar hyn o bryd rydym yn casglu a phrosesu'r wybodaeth ganlynol:

  • Eich manylion mewngofnodi Prifysgol Aberystwyth
  • Yr amseroedd a’r dyddiadau rydych chi wedi rhyngweithio â'r gwasanaeth/llwyfan;
  • Ym mha ffordd yr ydych wedi rhyngweithio â'r gwasanaeth/llwyfan;
  • Data am gynnydd;
  • Recordiadau clywedol a gweledol o'ch rhyngweithio a'ch ymatebion

 

Sut rydym yn casglu eich data personol a pham rydym yn ei ddefnyddio?

Mae eich data personol yn cael ei gasglu o’ch defnydd o’r llwyfannau dysgu.

Mae academyddion a gweinyddwyr y gyfadran yn gallu gweld y defnydd o’r data ar y platfform at ddibenion asesu.   Yna bydd y data'n cael ei newid i ffurf ddienw at ddibenion dadansoddi ac adrodd.

Seiliau cyfreithiol

Yn ôl Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR), y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol yw er mwyn cyflawni eich contract gyda'r Brifysgol fel myfyriwr (Erthygl 6(1)(b)) a chyflawni tasg er budd y cyhoedd. (Erthygl 6(1)(e)).

Pwy fydd yn cael gweld eich data personol?

Dim ond yr aelodau staff hynny y mae angen iddynt weld rhannau perthnasol neu bob rhan o'ch gwybodaeth fydd yn cael caniatâd i'w gweld.  Bydd unrhyw wybodaeth a gaiff ei chyfleu i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar ffurf ddienw ac ar gyfer dadansoddiadau ystadegol yn unig, ni rennir unrhyw wybodaeth bersonol.

Am ba hyd yr ydym yn cadw eich data?

Bydd eich data yn cael ei gadw am flwyddyn ar ôl diwedd eich amser fel myfyriwr cofrestredig. 

Beth yw eich hawliau?

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu eich gwybodaeth.

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol ar sail rhwymedigaethau cytundebol, mae gennych yr hawl: i weld eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, i gyfyngu ar brosesu, i ddileu ac i symud eich gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol ar sail cyflawni tasg er budd y cyhoedd, mae gennych yr hawl: i weld eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, i wrthwynebu a chyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Gweler tudalennau gwe’r Brifysgol ar Ddiogelu Data i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau.  

Os ydych am arfer unrhyw un o'ch hawliau, cysylltwch â Llywodraethu Gwybodaeth: llywodraethugwyb@aber.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â nrsstaff@aber.ac.uk yn y lle cyntaf.  Os ydych yn anhapus â sut y cafodd eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol trwy e-bostio  llywodraethugwyb@aber.ac.uk.

Os ydych o hyd yn anfodlon ar ôl gwneud hynny, yna mae gennych hawl i gysylltu â  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).