Mr Simon Clothier
BSc (BSc) Nyrsio Oedolion (Prifysgol Abertawe), Diploma Ymarferydd Arbenigol Nyrs Ardal (Prifysgol Abertawe).
Clinical Skills Lecturer Practitioner (Adult Field)
Manylion Cyswllt
- Ebost: sic50@aber.ac.uk
- Swyddfa:0.12 Adeilad Gwendolen Rees
Mae Simon yn Ymarferydd Darlithydd Sgiliau Clinigol, gan gyfrannu at addysgu Sgiliau Clinigol ar draws pob cam o'r rhaglen yn y Ganolfan Addysg Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi ei fagu yng Ngheredigion, dechreuodd Simon ei daith i nyrsio drwy gwblhau Cwrs Mynediad yn 2015, ac yn 2018 cymhwysodd mewn Nyrsio Oedolion gyda Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth (Nyrsio Oedolion) gydag anrhydeddau o Brifysgol Abertawe. Dechreuodd ei yrfa nyrsio ym maes gofal Cardiaidd/Anadlol, cyn symud ym mis Ebrill 2019 i Nyrsio Cymunedol yn Llandysul, ac yna i ardal Aberaeron a Cheinewydd yng Ngheredigion. Yn ystod pandemig Covid-19, dechreuodd Diploma Ymarferydd Arbenigol Nyrs Ardal ym Mhrifysgol Abertawe, a chwblhaodd hwn yn 2023. Yn dilyn hynny, bu Simon yn gweithio fel nyrs Band 6 yn Nhîm Ymateb Acíwt, cyn symud ymlaen i rôl Nyrs Ardal â llwyth achosion yn Llambed. Mae Simon wedi ennill profiad mewn ystod eang o amgylcheddau nyrsio. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd ddiddordeb arbennig mewn Gofal Lliniarol, gan sicrhau bod gofal amserol yn cael ei ddarparu i gleifion sy'n byw yn y gymuned. Ers symud o Ymarfer Clinigol i Addysg, mae Simon yn gobeithio ysbrydoli a meithrin nyrsys y dyfodol, gan geisio creu'r un profiad gwerthfawr a phleserus a gafodd ef fel myfyriwr nyrs.
