Ffreutur @ Pantycelyn
Mae ein Ffreutur wedi'i lleoli ym Mhantycelyn, ar Riw Penglais, gerllaw prif Gampws y Brifysgol. Mae'r Ffreutur ar agor i breswylwyr saith diwrnod yr wythnos am groeso cynnes Cymreig.
Y Ffreutur yw eich man bwyta ar y safle ym Mhantycelyn, sy'n gweini prydau cartref calonnog wedi'u paratoi gan ddefnyddio cynnyrch lleol pan fo modd. P'un a ydych chi’n chwilio am frecwast traddodiadol wedi'i goginio, pryd nos wedi'i baratoi’n ffres, neu brofiad caffi hamddenol ar y penwythnos, mae gan Ffreutur rywbeth at ddant pawb.
Rydym yn falch o ddarparu ar gyfer yr holl ofynion dietegol ac alergenau - siaradwch ag aelod o staff os oes angen unrhyw gymorth arnoch.
Bwyta i mewn neu fwyd i fynd - chi sy’n dewis.
Oriau Agor (Amser Tymor)
Brecwast
Dydd Llun i ddydd Gwener | 08:00 – 10:15
Prydau gyda'r nos
Dydd Llun i ddydd Gwener | 17:00 – 19:00
Gwasanaeth Caffi Penwythnos
Dydd Sadwrn a Dydd Sul | 11:00 – 18:00
Beth sydd ar gael:
Bwyta yn ystod yr wythnos:
- Brecwast traddodiadol wedi'i goginio
- Prydau cartref
- Ciniawau Cerfdy
- Dewisiadau Llysieuol a Figan
- Brechdanau, rholiau
- Pwdinau
- Diodydd meddal, te a choffi
- Dewis o fyrbrydau a siocledi
- Prydau bargen gyda brechdanau
- Siop
Caffi'r penwythnos:
- Dewis o beis, pasteiod a chrystiau
- Cacennau ffres a danteithion melys
- Brechdanau, rholiau a phaninis
- Byrbrydau, siocledi a diodydd meddal
- Te a choffi
- Siop
- Prydau bargen gyda brechdanau
Noder: Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu system heb arian parod. Rydym yn derbyn taliadau cerdyn a thaliadau Cerdyn Aber.