Y Neuadd Fwydd

 

Wedi'i lleoli ar lawr gwaelod Penbryn, yng nghanol prif gampws Prifysgol Aberystwyth, y Neuadd Fwyd yw ein bwyty cyffrous, arobryn, lle gall staff a myfyrwyr hefyd fwynhau gostyngiadau unigryw.

P'un a ydych chi'n galw heibio rhwng darlithoedd, yn cwrdd â ffrindiau am ginio, neu'n chwilio am le i ymlacio, mae'r Neuadd Fwyd yn cynnig awyrgylch cynnes, cyfeillgar gyda digonedd o seddi. Mae'n ganolfan gymdeithasol boblogaidd i fyfyrwyr a hefyd yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol bach, gyda threfniadau bwrdd hyblyg a sawl soced pŵer ar gael ar gyfer eich dyfeisiau.

Mae’r Neuadd Fwyd yn barth di-alcohol, ac wedi'i chynllunio i fod yn ofod croesawgar i fwyta, ymlacio, gweithio, a chysylltu. Mae ein cogyddion mewnol yn cynnig amrywiaeth eang o opsiynau blasus ac yn hapus i fodloni ceisiadau arbennig.

Bwyta i mewn neu fwyd i fynd - chi sy’n dewis.

Noder:     Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu system heb arian parod. Rydym yn derbyn taliadau cerdyn a thaliadau Cerdyn Aber.

Gallai’r oriau agor a’r gwasanaeth sydd ar gael amrywio y tu allan i amseroedd tymor y brifysgol.

Bwrdd y Pen-Cogydd a Gwasanaethau

Mae ein holl brydau wedi'u paratoi'n ffres ar y safle gan ein tîm ymroddedig o gogyddion mewnol. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i hyrwyddo bwyta'n iach drwy weithio gyda chyflenwyr dibynadwy a chynnig amrywiaeth o opsiynau maethlon, gan gynnwys amrywiaeth o brydau o gynnyrch planhigion.

Fel cymuned amlddiwylliannol falch, rydym yn cydnabod ac yn parchu credoau crefyddol a moesegol amrywiol ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Lle bo hynny'n bosibl, rydym yn dod o hyd i gigoedd wedi’u hardystio yn halal neu o ffynonellau halal ar gyfer prydau ac eitemau bwydlen penodol i sicrhau cynhwysiant i bawb.

Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol neu alergenau, mae croeso i chi siarad â'n cogyddion cyfeillgar - rydym bob amser yn hapus i helpu.

Beth sydd ar y fwydlen? (yn ystod y tymor yn unig)

Creu eich Brecwast eich hun
Dydd Llun i ddydd Gwener | 08:30 – 11:00

Cinio Cerfdy a Phrydau Prif Gwrs Cartref 
Dydd Llun i ddydd Gwener | 12:00 – 14:00

Bar Ramen
Wedi'i weini bob dydd gydag opsiwn figan

Opsiynau Figan Dyddiol
Dewisiadau ffres o gynnyrch planhigion bob dydd

Cawl Cartref y dydd

Bar Salad Ffres
Wedi'i baratoi bob dydd gydag amrywiaeth o gynhwysion tymhorol

Bwydlen o fwyd wedi’i goginio’n ffres Bwydlen
Dydd Llun i ddydd Gwener | 14:00 – 19:00

Pryd Gwerth am Arian Dyddiol
Prydau fforddiadwy, iachus wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr a staff

Siop Goffi'r Neuadd Fwyd

Yn cynnwys Starbucks. Siop goffi’r Neuadd Bwyd yw'r lle perffaith i gael eich dos o gaffein, byrbryd cyflym, neu rywbeth mwy sylweddol.

Oriau Agor (Amser Tymor): Dydd Llun i ddydd Gwener | 08:00 – 19:00

Ar y Fwydlen:

Diodydd poeth:

  • Cappuccino, Latté, Espresso, Americano, Mocha a Macchiato
  • Detholiad o de
  • Siocled poeth cyfoethog

Diodydd Oer

  • Latté, Mocha, Macchiato ac Americano iâ
  • Smŵddis iachusol
  • Frappuccino
  • Te iâ

Byrbrydau a Phrydau Ysgafn:

  • Tatws trwy’u crwyn wedi'u paratoi'n ffres
  • Detholiad eang o baninis, brechdanau a ffyn bara
  • Amrywiaeth o fwydydd "Prynu a Mynd" o £1.75 (Pris myfyriwr) (e.e. myffins brecwast, pasteiod sawrus)
  • Prydau bargen dyddiol o £3.65 (yn cynnwys brechdan, diod a’ch dewis o ffrwyth, iogwrt, siocled neu greision)

Danteithion Melys a Sawrus:

  • Dewis o gacennau gan gynnwys rhai heb glwten a figan, bisgedi a thoesenni o ddim ond £1.03 (Pris myfyriwr)
  • Pethau melys
  • Creision
  • Ffrwythau ffres

Cynllun Teyrngarwch

Cofiwch ysgogi eich cerdyn teyrngarwch (Magic Stamp) i ddechrau casglu stampiau er mwyn cael diod boeth am ddim! Chwiliwch am "magic stamp" o’r storfa apiau.

 

 

Yr holl ffotograffau gan Darya koskeroglu