Myfyrwyr ar Leoliad
Os lleolir myfyrwyr PA mewn sefydliadau allanol yn rhan o’u cwrs, rhaid cwblhau asesiad o drefniadau iechyd a diogelwch y sefydliad fel rhan o’r broses awdurdodi. Rhaid cadw golwg ar y sefyllfa er mwyn cadw cymeradwyaeth y sefydliadau.
Cyfrifoldeb yr Adran Academaidd perthnasol yw sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu cyflawni. Ceir cyngor cynhwysfawr yn nogfen gyfarwyddyd UCEA a ddyfynwyd isod; mae’r cyfarwyddyd yn cynrychioli polisi PA ar agweddau Iechyd a Diogelwch lleoliadau myfyrwyr.
Os lleolir plant (< 16 mlwyd oed) neu bobl ifanc (16-17) yn PA am gyfnod profiad gwaith, mae’n rhaid cwblhau asesiad risg o flaen llaw, a dylid cadw goruwchwyliaeth ofalus.
- UCEA Health and Safety Guidance: for the placement of Higher Education students
- Work experience for young people: Health and safety basics for employers
I bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn gyda phrofiad prin yn y gweithle, gellir defnyddio'r rhestr wirio isod fel man cychwyn defnyddiol ar gyfer lleoliad gwaith yn PA Work Experience over 18 checklist
