Gwybodaeth am Ddiogelu Data

Ar 25 Mai 2018, bydd Deddf Diogelu Data 1998 yn cael ei disodli gan ddeddfwriaeth newydd, sef y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Bydd hyn yn darparu cyfraith preifatrwydd data sengl i holl wladwriaethau Ewrop yn ogystal â’r DU. Mae rhai o’r newidiadau allweddol yn cynnwys rhagor o hawliau i wrthrych y data, rheolau newydd yn ymwneud â chaniatâd, a gofyniad am hysbysiadau mwy manwl ac eglur.

Diben y weddalen hon yw darparu gwybodaeth angenrheidiol i unigolion ynghylch y modd y mae’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn casglu a phrosesu data personol. Mae’r trefniadau cysylltiedig â’r gweithgareddau a allai olygu bod y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn prosesu data personol  yn cael eu disgrifio yn y datganiadau diogelu data canlynol. Gofynnir i unigolion ymgyfarwyddo â’r dogfennau hyn cyn ymwneud ag unrhyw un o’r prosesau. 

Dogfennau

Mathau o brosesau casglu data sy’n berthnasol

Datganiad Diogelu Data Gweithgareddau Cyffredinol IDA

Asesiadau Risg, Asesiadau DSE, PEEP, ac ati.

Hysbysiad Preifatrwydd Cofnodi Digwyddiadau Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd

Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad, Ymchwiliadau i Ddigwyddiad, Adroddiadau RIDDOR ac ati.

Datganiad Diogelu Data Cofnodion Hyfforddiant IDA

Tystysgrifau Hyfforddi, Cofrestri Presenoldeb, Cofnodion Hyfforddi, ac ati.

Os bydd unigolion angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad am unrhyw un o’r dogfennau uchod, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar 01970 62(2073).