Syr John Rhys

Gadawodd Syr John Rhys (yr Athro Cymraeg cyntaf yn Rhydychen) ei gasgliad o tua 2,000 o lyfrau i Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth pan fu farw ym 1915. Mae rhai o'r llyfrau'n gyfyngedig oherwydd eu bod yn lyfrau prin ond mae nifer ohonynt ar y silffoedd agored yn y Casgliad Celtaidd. Mae'n hawdd eu hadnabod yn ôl lliw gwahanol y plât llyfr. Mae archif y brifysgol hefyd yn cynnwys gohebiaeth a gafwyd ac a gasglwyd gan Syr John Rhys, nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd ac a gasglwyd gan Rhys, a deunydd printiedig. Ewich i safle Archives Hub i gael rhagor o wybodaeth.