Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth (TG)
Mae’r Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth (TG) yn darparu'r gwasanaethau canlynol i staff a myfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth i gefnogi Strategaeth y Brifysgol.
Mae pob defnydd a wneir o’n Gwasanaethau TG yn ddarostyngedig i'n polisïau a’n rheoliadau.
Argraffu, Llungopïo a Sganio
Mae’r Gwasanaethau TG yn darparu gwasanaeth hunanwasanaeth, argraffu, llungopïo a sganio mewn lleoliadau ar draws pob campws, ac mae rhai ohonynt ar gael 24 awr y dydd.
Mae pob Dyfais Aml-swyddogaethol yn cynnig
- Argraffu Du/Gwyn a Lliw
- Llungopïo Du/Gwyn a Lliw
- Opsiynau A3 ac A4
- Sganio OCR
- Sganio i e-bost neu storfa ffeiliau / OneDrive
Cyfleusterau E-bost
Darperir e-bost gan Microsoft 365, sy'n cynnwys cleient post ar y we gyda chalendrau a chysylltiadau, storio ffeiliau OneDrive, apiau gwe Office a gofod storio cwmwl 1TBGB ar gyfer post a dogfennau.
Yn ogystal â blychau post personol ar gyfer staff a myfyrwyr, mae blychau post a rennir ar gael ar gyfer gwasanaethau a phrosiectau.
Mae'r holl bost sy'n dod i mewn yn cael ei wirio gan hidlyddion Microsoft am SPAM a firysau.
Cyfrinon TG
Mae cyfrifon TG ar gyfer yr holl staff, gan gynnwys staff dros dro, staff heb gontract, staff er anrhydedd ac Arholwyr Allanol, yn cael eu cynhyrchu a'u diweddaru o'r system Adnoddau Dynol/Cyflogres. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau a chyflwyno'r holl ffurflenni y mae Adnoddau Dynol yn gofyn amdanynt. I Arholwyr Allanol, bydd mynediad cyfrifiadurol yn cael ei hwyluso trwy'r Gofrestrfa Academaidd.
Mae cyfrifon TG ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys Myfyrwyr Dysgu o Bell a Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes, yn cael eu cynhyrchu a'u diweddaru o'r System Gofrestru Myfyrwyr (AStRA). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau a chyflwyno'r holl ffurflenni y mae eich Adran, y Gofrestrfa Academaidd a'r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr yn gofyn amdanynt.
Anfonir e-bost at ddefnyddwyr pan fydd eu cyfrif ar gael i'w actifadu.
Os oes angen cyfrif ar gyfer rhywun nad yw'n aelod o staff nac yn fyfyriwr cofrestredig, cysylltwch â'r Gwasanaethau TG i drafod eich gofynion.
Cymorth a Chefnogaeth
Ceir cyngor a chyfarwyddiadau yn ein Cwestiynau Cyffredin
Gellir dod o hyd i ddiweddariadau i wasanaethau a systemau ar Statws Gwasanaeth TG
Am unrhyw gymorth a chefnogaeth TG arall cysylltwch â ni
Cyngor ar Brynu a Gwasanaeth Cynnal a Chadw TG
Rydym yn darparu cyngor a dilysiad ar gyfer prynu yr holl galedwedd, meddalwedd a gwasanaethau TG. Byddwn yn sicrhau bod offer yn cyd-fynd â systemau'r Brifysgol, yn bodloni safonau diogelwch, ac yn cyflawni'r gwerth gorau trwy fframweithiau HEPCW cymeradwy. Ymgynghorwch â ni cyn gosod unrhyw archebion i sicrhau cydymffurfiaeth.
Gwasanaethau Benthyca Offer
Mae amrywiaeth o offer ar gael i staff a myfyrwyr eu benthyca am gyfnodau byr o amser ar gyfer digwyddiadau prifysgol, teithiau maes neu waith cwrs. Mae hyn yn cynnwys gliniaduron, taflunyddion ac offer ffotograffiaeth a fideo digidol eraill. Darperir y gwasanaeth hwn i gefnogi astudiaethau academaidd a digwyddiadau prifysgol yn unig.
Gwasanaethau Cyfrifiadurol Canolog
Mae cyfrifiaduron, sydd ar gael i staff a myfyrwyr fewngofnodi iddynt, ar gael mewn lleoliadau ar draws y campws ac mae rhai ohonynt ar agor 24/7.
Cyfrifiaduron Windows yw’r rhain yn bennaf, er bod nifer fach o gyfrifiaduron Mac ar gael hefyd, ac mae pob un ohonynt yn darparu mynediad i rwydwaith y Brifysgol, Microsoft 365, cyfleusterau argraffu, storfa ffeiliau ac ystod o feddalwedd arbenigol.
Mewn rhai lleoliadau mae hybiau monitor, gyda bysellfwrdd a llygoden, hefyd ar gael i'w defnyddio gyda dyfais bersonol.
Gwasanaethau Meddalwedd
Gwasanaethau storio a gwesteia gweinyddwyr
Mae’r Gwasanaethau TG yn cefnogi'r farn y dylai gweinyddwyr a storfeydd corfforaethol PA gael eu lleoli a'u rheoli'n ganolog fel eu bod yn derbyn y diogelwch gorau, parhad gwasanaeth a rheolaeth i sicrhau’r gwytnwch gorau posibl ar gyfer gwasanaethau'r Brifysgol.
Mae’r Gwasanaethau TG yn darparu gwasanaeth cynnal ar gyfer gweinyddwyr adrannol arbenigol.
Gwasanaethau Teleffon
Mae gwasanaeth ffôn y Brifysgol yn defnyddio Voice over IP (VOIP), sy'n cynnwys nodweddion megis ffonau meddal, llaisbost, Enw’r Galwr, a symudedd estyniad.
Mae ffonau symudol ar gyfer adrannau’r brifysgol hefyd yn cael eu rheoli'n ganolog gan y Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth.
Gwasanaethau’r Rhwydwaith
Mae cysylltiad rhyngrwyd allanol Prifysgol Aberystwyth yn cael ei ddarparu trwy rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) yng Nghymru, a'r Rhwydwaith Academaidd ar y Cyd (JANET) yn amgylcheddau academaidd ac ymchwil y Deyrnas Unedig.
Y Gwasanaethau TG sy'n gyfrifol am ddarparu mynediad i’r rhwydwaith, gan gydymffurfio â Pholisi Rheoli’r Rhwydwaith a’r Polisi Di-wifr, ledled y Brifysgol.
Mae'r rhwydwaith diwifr 'Eduroam' ar gael ledled adeiladau academaidd a gweinyddol y Brifysgol ac mewn neuaddau preswyl.
Mae gan bob neuadd breswyl ar y campws socedi rhwydwaith gwifrog, ac mae'r rhwydwaith diwifr 'Eduroam' yn darparu cysylltiad cyflym sy'n galluogi myfyrwyr i gael mynediad at rwydwaith ardal leol Prifysgol Aberystwyth a'r rhyngrwyd.
Mae gwasanaeth VPN ar gael i'n defnyddwyr sy'n gweithio neu'n astudio oddi ar y campws.
Mae staff y Gwasanaethau TG yn gosod, yn cefnogi ac yn cynnal rhwydweithio ar amrywiaeth o lefelau gan gynnwys y cysylltiad â'r Rhyngrwyd, y cysylltiadau rhyng-gampws, cysylltiadau rhwng adeiladau, hyd at geblau lleol i ddesgiau.
Ar brosiectau newydd, mae’r Gwasanaethau TG mewn cyswllt trwy gydol cylchoedd bywyd prosiectau â’r Adran Datblygu Ystadau, Tîm Gwasanaethau Eiddo PA, a/neu â chontractwyr ar brosiectau ehangach. Mae bod yn rhan trwy gydol y broses yn lleihau problemau yn nes ymlaen yn ogystal â chynnwys seilwaith ar gyfer y dyfodol.
Gwasanaethau’r We
Mae’r Brifysgol yn defnyddio System Rheoli Cynnwys (CMS) a elwir yn Terminalfour i greu, adolygu a chyhoeddi cynnwys i wefan y Brifysgol.
Mae'r Porth Myfyrwyr a'r Fewnrwyd Staff yn cael eu cyhoeddi gan ddefnyddio SharePoint.
Mae opsiynau ar gael ar gyfer prosiectau ymchwil sydd angen gwefan, gan gynnwys ein rhwydweithiau WordPress.
Caniateir i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth gyhoeddi eu tudalen we eu hunain trwy weinydd y Brifysgol.
Gwerthiant Defnyddiau Traul
Mae peiriant gwerthu ar gael ar Lawr D yn Llyfrgell Hugh Owen lle gellir prynu'r canlynol:
- Ceblau Mellt
- Clustffonau
- Cerdyn MicroSD
- Ceblau rhwydwaith
- Plygiau addasydd i ymwelwyr â’r DU
- USB - Addasydd Ethernet
- Cebl USB-C
- Cebl USB i Micro USB
- Gyriannau Cof Bach USB (16GB)
- Darllenydd cerdyn SD USB
- Ystod o ddeunydd ysgrifennu
Telir gyda Cherdyn Aber yn unig
Gall adrannau hefyd brynu'r rhain, ac eitemau eraill gan ddefnyddio codau cost mewnol
Monitorau Gwybodaeth
Gellir defnyddio Monitorau Gwybodaeth i arddangos cyfres o dudalennau cylchdroi i hysbysebu cyrsiau, gwasanaethau ac eitemau newyddion.
Mae adrannau yn gyfrifol am brynu'r caledwedd a chynhyrchu'r cynnwys a gall y Gwasanaethau TG ddarparu:
- Cymorth i gaffael a gosod y monitor
- Hyfforddiant a chefnogaeth i greu a diweddaru'r cynnwys
- Rheoli'r gwasanaeth sy'n darlledu'r cynnwys
Rhestrau E-bost
Mae rhestrau e-bost, a gynhyrchir yn ddeinamig o ddata staff a myfyrwyr, ar gael ar gyfer cysylltu â staff a myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys rhestrau yn ôl cyfadran, adran, modiwl, cynllun, rhaglen a chwrs astudio, neuadd breswyl a champws.
Gellir creu rhestrau pwrpasol, sy'n cael eu cynnal â llaw, ar gyfer timau, gwasanaethau, prosiectau a grwpiau.
Rhwymo
Gallwn argraffu a rhwymo (rhwymiad caled neu rwymiad meddal) copïau personol o'ch traethawd hir neu draethawd ymchwil. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i Staff a Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gefnogi amcanion academaidd y Brifysgol.
Seiberddiogelwch
Mae’r Gwasanaethau TG yn ymroddedig i ddiogelu ein hamgylchedd digidol a sicrhau diogelwch ar-lein yr holl staff a myfyrwyr. Rydym yn monitro systemau TG yn rhagweithiol i amddiffyn rhag bygythiadau allanol ac yn rheoli'r seilwaith diogelwch sy'n cadw’r data’n ddiogel. Mae ein tîm yn ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau seiber megis e-byst gwe-rwydo, heintiau maleiswedd, ac ymdrechion i dwyllo, ac ar yr un pryd yn darparu cyngor a chynnal sesiynau hyfforddi i godi ymwybyddiaeth am seiberddiogelwch. Rydym yn datblygu polisïau diogelwch TG ac arferion gorau i gynnal cydymffurfiaeth a gwytnwch ar draws y Brifysgol.
Storfa Ffeiliau
Mae nifer o ddatrysiadau ar gael ar gyfer storio ffeiliau.
- Storfa ffeiliau bersonol
- Storfa ffeiliau a rennir
- OneDrive
- SharePoint / Teams
Penderfynir ar ba un i’w ddefnyddio yn ôl y math o ddata i'w storio, pwy fydd angen mynediad a sut y ceir mynediad.
System gwybodaeth busnes
Mae ITS yn darparu cefnogaeth, integreiddiadau a datblygiad systemau busnes craidd, megis:
- AStRA a chymwysiadau data myfyrwyr eraill
- Systemau derbyn myfyrwyr
- System Adnoddau Dynol a Chyllid (ABW)
- CRM
- Integreiddiadau systemau dysgu ac addysgu
Mae System Cofnodion a Derbyn Myfyrwyr Aberystwyth ar gael i ddefnyddwyr awdurdodedig yn unig
System proffil staff ar-lein
Mae proffiliau staff yn hygyrch i'r cyhoedd drwy Gyfeiriadur canolog y Brifysgol a rhestrau staff ar dudalennau gwe adrannol.
Mae'r tudalennau yn cael eu cynhyrchu o'r system proffiliau Staff a gall holl staff Prifysgol Aberystwyth a rhai myfyrwyr gynnal eu proffiliau eu hunain.
Timau Microsoft
Mae Microsoft Teams ar gael i holl staff a myfyrwyr PA sydd â chyfrif e-bost PA a gellir ei ddefnyddio trwy ap symudol, ap bwrdd gwaith neu borwr gwe.
Mae'n cynnig offer ar gyfer gweithio ar y cyd, er enghraifft:
- Sgwrs grŵp
- Cyfarfodydd fideo
- Rhannu ffeiliau
- Galwadau grŵp
Ar gyfer darlledu fideo a chyfarfodydd i gynulleidfa lawer mwy (hyd at 10,000 o fynychwyr) mae Microsoft Teams Live Events yn darparu'r nodweddion ar gyfer rheoli cynnwys darlledu’n well.
