Cerdyn Aber

Eich Cerdyn Aber

Eich Cerdyn Aber yw eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr/Staff ac mae'n adnodd pwysig sy'n rhoi mynediad i chi at ystod o gyfleusterau a gwasanaethau a all, yn dibynnu ar eich statws defnyddiwr, gynnwys

  • Mynediad i adeiladau'r Brifysgol 
  • Mynediad i'r neuaddau preswyl 
  • Cofrestru'ch presenoldeb yn eich darlithoedd 
  • Benthyca o’r llyfrgelloedd, gan gynnwys defnyddio'r peiriannau hunan-fenthyca 
  • Argraffu, llungopïo a sganio 
  • Prynu bwyd ym mwytai a chaffis Gwasanaethau Croeso'r Brifysgol 

Cofiwch

  • Dim ond yr unigolyn a enwir ar y cerdyn gaiff ddefnyddio Cerdyn Aber. Ni cheir ei fenthyg na'i roi i neb arall, ac ni chaiff neb arall ei ddefnyddio. Dim ond i aelodau presennol o staff y Brifysgol, myfyrwyr cofrestredig presennol (sydd heb dynnu'n ôl dros dro na'u gwahardd), neu eraill sydd â breintiau cyfredol priodol fel aelodau'r Brifysgol y gallai Cerdyn Aber fod yn ddilys. 
  • Dylai staff a myfyrwyr sicrhau bod eu Cerdyn Aber i'w weld yn glir tra eu bod nhw ar dir y Brifysgol, er enghraifft drwy ei wisgo ar gordyn. Mae gallu adnabod staff a myfyrwyr yn weladwy yn helpu i gynnal campws diogel, yn galluogi staff i adnabod myfyrwyr yn hawdd, ac yn cefnogi trefniadau mynediad a diogelwch ar draws y Brifysgol. 
  • Os bydd eich Cerdyn Aber yn cael ei golli neu'i ddwyn, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i'r Gwasanaethau TG: tg@aber.ac.uk / 01970 622400 yn syth. 
  • Pan ddefnyddiwch eich Cerdyn Aber i argraffu, llungopïo neu sganio, rhaid sicrhau’ch bod yn cydymffurfio â Chytundeb Hawlfraint y Brifysgol 
  • Ni chaiff myfyrwyr ddefnyddio credyd ar eu Cerdyn Aber i brynu alcohol na baco 

Mae Cerdyn Aber yn:

  • dangos enw, categori, rhif myfyriwr / staff, a llun y defnyddiwr
  • cynnwys cod bariau a rhif a ddefnyddir â systemau'r Llyfrgell
  • cynnwys data adnabod lleoliad a seilir ar gofnod staff/myfyriwr y defnyddiwr dan sylw, sy'n cael ei gyfeirio at wahanol systemau'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod modd i'r defnyddiwr fynd i mewn i adeiladau priodol.

Gwneud Cais

  • Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff presennol Prifysgol Aberystwyth yr hawl i gael Cerdyn Aber.
  • Er mwyn sicrhau bod eich Cerdyn Aber yn barod amdanoch pan gyrhaeddwch y campws bydd angen i chi wneud cais o leiaf wythnos ymlaen llaw.
  • Cewch wneud cais am eich Cerdyn Aber drwy uwch-lwytho ffoto digidol  yn: https://myaccount.aber.ac.uk/protected/newabercard/

Gwarchod Data

Wrth dderbyn eich Cerdyn Aber fe dderbyniwch delerau ac amodau defnyddio'r cerdyn, a thelerau ac amodau prosesu'ch data personol ar gyfer ei ddefnyddio.

1. Mae Cerdyn Aber yn:

  • dangos enw, categori, rhif myfyriwr / staff, a llun y defnyddiwr;
  • cynnwys cod bariau a rhif a ddefnyddir â systemau'r Llyfrgell;
  • dangos cod QR sy'n gysylltiedig â thudalen ar y we sy'n dangos a oes gan y defnyddiwr gyfrif staff / myfyriwr dilys;
  • cynnwys data adnabod lleoliad a seilir ar gofnod staff/myfyriwr y defnyddiwr dan sylw, sy'n cael ei gyfeirio at wahanol systemau'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod modd i'r defnyddiwr fynd i mewn i adeiladau priodol.

2. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber fe fydd data cofnodi yn cael ei gynhyrchu'n uniongyrchol am bob achlysur pan ddefnyddir y cerdyn:

2.1 Mae data presenoldeb myfyrwyr (drwy sganio Cerdyn Aber wrth y mannau presenoldeb yn y darlithfeydd) yn cael ei gofnodi a'i ychwanegu at eich cofnod academaidd. Fe'i defnyddir i fonitro presenoldeb ac at ddibenion dadansoddi dysgu ac fe'i cedwir am 6 blynedd ar ôl i chi adael y Brifysgol.

2.2 Os defnyddir Cerdyn Aber gan staff fel rhan o system amser a phresenoldeb, fe gedwir y data am gyfnod a fydd yn cael ei ddatgan.

2.3 Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i fynd i mewn i adeiladau ac ystafelloedd fe fydd system drysau SALTO yn cynhyrchu data na ddefnyddir oni bai bod ei angen ar gyfer ymholiadau ystadegol, diogelwch, gweithdrefnau iechyd a diogelwch, ymchwilio i achosion o dorri rheoliadau neu archwiliadau'r heddlu. Cedwir y data hwn am 2 flynedd.

2.4 Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i brynu bwyd neu eitemau eraill ar y campws, fe gynhyrchir cofnod prynu a gedwir, yn unol â chofnodion ariannol eraill, am 7 mlynedd. Defnyddir y data hefyd am ddadansoddiadau ystadegol dienw, ond nid at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y defnyddir eich data, cysylltwch â'r Rheolwr Diogelu Data yn infocompliance@aber.ac.uk

Am fwy o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn diogelu data, gweler  https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp

Ychwanegu Credyd

Gallwch ychwanegu credyd at eich Cerdyn Aber ar y we neu yn bersonol gyda cherdyn credyd/debyd yn:

  • Penbryn (y Neuadd Fwyd),
  • CAFFIbach
  • Llyfrgell Hugh Owen
  • Caffis a bariau Canolfan y Celfyddydau
  • Undeb y Myfyrwyr (gallwch ychwanegu credyd gydag arian parod yn nerbynfa Undeb y Myfyrwyr)

Os ydych chi mewn llety sy'n cynnig arlwyo, bydd eich Cerdyn Aber yn cael ei gredydu cyn i chi gyrraedd. Ni all myfyrwyr brynu alcohol na thybaco gan ddefnyddio credyd ar eu Cerdyn Aber. Dangoswch eich Cerdyn Aber bob amser i gael gostyngiadau yn siopau lletygarwch y Brifysgol. Gall unrhyw un roi credyd ar eich Cerdyn Aber:

  • wrth y til corfforol; bydd angen eich enw llawn a rhif eich cerdyn myfyriwr neu gerdyn Aber arnynt. 
  • drwy https://topup.aber.ac.uk 

Os oes credyd ar ôl ar eich Cerdyn Aber, mae angen i fyfyrwyr ei wario erbyn 30 Medi ar ôl i'w cyfnod ddod i ben, neu erbyn diwedd contract ar gyfer staff. Os oes credyd yn weddill a heb ei ddefnyddio ar Gerdyn Aber erbyn y dyddiad olaf, y bydd y credyd hwnnw yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Caledi Myfyrwyr/Cronfa Aber.

Ailddilysu

Er mwyn sicrhau bod Cerdyn Aber yn parhau i ganiatáu mynediad i adeiladau, mae angen ei ail-ddilysu o leiaf bob 30 diwrnod.

Mae'r pwyntiau mynediad ar y rhan fwyaf o ddrysau allanol Prifysgol Aberystwyth yn bwyntiau diweddaru, felly bob tro y byddwch yn cyflwyno'ch cerdyn i fynd i mewn i adeilad bydd eich Cerdyn Aber yn cael ei ddilysu am 30 diwrnod arall.

Os na fyddwch yn ail-ddilysu o fewn 30 diwrnod, bydd eich Cerdyn Aber yn rhoi'r gorau i weithio. Bydd mynediad yn cael ei adfer pan fyddwch chi'n cyflwyno'ch cerdyn wrth bwynt diweddaru.

I ail-ddilysu'ch Cerdyn Aber wrth bwynt diweddaru, daliwch ef yn erbyn y pwynt diweddaru nes bod y darllenydd yn fflachio'n wyrdd. Gall hyn gymryd ychydig o eiliadau.

Cardiau Aber wedi torri, wedi colli neu wedi'u dwyn

Cerdyn Aber wedi torri

Os yw eich Cerdyn Aber wedi torri'n gorfforol ewch ag ef i'r Ddesg Gwasanaethau TG yn Llyfrgell Hugh Owen yn ystod oriau gwaith craidd

Cerdyn Aber Coll

Os ydych wedi colli eich Cerdyn Aber gallwch archebu un arall drwy: https://myabercard.aber.ac.uk

Cardiau Aber wedi'u Dwyn

Os cafodd eich Cerdyn Aber ei ddwyn, gallwch archebu un newydd trwy: https://myabercard.aber.ac.uk .
Bydd angen i chi ddarparu rhif adroddiad trosedd yr heddlu. Os nad oes gennych rif adroddiad trosedd heddlu, dilynwch y drefn ar gyfer cardiau coll.

  • Mae Cardiau Aber newydd ar gael fel arfer o fewn 2 awr o archebu yn ystod oriau gwaith craidd.
  • Mae costau am ddisodli cerdyn aber fel a ganlyn:
    • Cerdyn coll: £8.00
    • Cerdyn wedi'i dorri / wedi'i ddifrodi: am ddim
    • Cerdyn wedi'i ddwyn (lle rhoddir rhif adroddiad trosedd yr heddlu): am ddim
  • Codir tâl am Gardiau Aber newydd i dalu am gost y deunyddiau a'r prosesau sy'n gysylltiedig â gwneud y Cerdyn Aber newydd.

Y tu allan i oriau gwaith craidd, os yw eich Cerdyn Aber wedi torri, ar goll neu wedi'i ddwyn a bod angen mynediad ar unwaith i adeiladau'r brifysgol arnoch, cysylltwch â Diogelwch y Safle. 

 

Cerdiau Aber anghofiedig neu wedi'u colli

Os ydych wedi anghofio neu wedi gosod eich Cerdyn Aber i rywle dros dro, gallwch ofyn am gerdyn dros dro trwy fynd i'r Desg Gwasanaethau TG yn Llyfrgell Hugh Owen yn ystod oriau gwaith arferol.

Yn ystod oriau pan nad yw'r swyddfa ar agor, os ydych chi wedi anghofio neu wedi colli eich Cerdyn Aber ac mae angen i chi gyrraedd adeiladau'r brifysgol ar unwaith, cysylltwch â Diogelwch y Safle

Cerdyn Rhodd Aber

Cyflwyniad

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu cynllun rhagdalu debyd a gostyngiadau (“y cynllun”) lle y defnyddir Cerdyn Rhodd Aber (“y Cerdyn”) yn gyfnewid am nwyddau a gwasanaethau mewn safleoedd sy’n eiddo i Brifysgol Aberystwyth neu a reolir ganddi. Dyma delerau gweithredu’r cynllun ‘Cerdyn Rhodd Aber’.

Sut y gallaf brynu Cerdyn Rhodd Aber?

  • Gellir prynu Cerdyn Rhodd o unrhyw siop, caffi neu fwyty ar y campws. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, Siop Lyfrau a Siop Grefftau Canolfan y Celfyddydau, TaMed Da, TaMed bach, IBERbach, SGUBORfach, y Ganolfan Chwaraeon, Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell Thomas Parry.
  • Cewch ychwanegu credyd ar Gerdyn Rhodd Aber yn ein siopau, ein caffis neu'n bwytai, neu ar y we
  • Ni fydd unrhyw log yn cronni ar yr arian a roddir ar Gerdyn Rhodd Aber na’r swm o gredyd sydd ar y cerdyn.

Ble y gellir defnyddio Cerdyn Rhodd Aber?

  • Gellir defnyddio’r Cerdyn Rhodd ym mhob un o’r safleoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau, y Ganolfan Chwaraeon, y siop lyfrau a rhoddion, pob safle'r gwasanaethau croeso, gan gynnwys Brynamlwg, a Llyfrgell Hugh Owen.
  • Mae popeth a brynwch gan gwmnïau ar fasnachfraint a safleoedd eraill ar gampysau Prifysgol Aberystwyth wedi’u heithrio o’r cynllun.

Sut y defnyddir y Cerdyn Rhodd?

  • Rhaid cyflwyno’r cerdyn pan fyddwch yn talu, a bydd gwerth y trafodyn yn cael ei dynnu o’r cerdyn. Byddwch yn cael derbynneb gyda phopeth a brynwch a fydd yn dangos unrhyw gredyd sy’n weddill ar y cerdyn.

Beth fydd yn digwydd os collaf Gerdyn Rhodd Aber?

  • Pan brynwch eich cerdyn rhodd, gofynnwn i chi gadw’r dderbynneb yn ddiogel gan mai hon a ddefnyddir i brofi pwy yw perchennog y cerdyn.
  • Gellir prynu Cerdyn Rhodd Aber newydd am £1.00, a gellir llwytho’r credyd sy’n weddill ar y cerdyn hwnnw.
  • Sylwer na ellir trosglwyddo credyd y Cerdyn Rhodd heblaw bod gennych y dderbynneb am brynu’r cerdyn gwreiddiol.
  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd cardiau sydd wedi’u colli neu’u dwyn yn cael eu defnyddio'n dwyllodrus, a dim ond y credyd oedd ar y cerdyn, ar yr amser a'r dyddiad pan roddwyd gwybod i wasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth bod y cerdyn wedi'i golli neu’i ddwyn, fydd yn cael ei drosglwyddo i'r cerdyn newydd.

Telerau ac Amodau Amrywiol

  • Mae’r credyd ar y cerdyn yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad pan ddefnyddiwyd y cerdyn ddiwethaf.  Os na ddefnyddir y cerdyn am 12 mis neu fwy, bydd y credyd yn cael ei glirio o’r cerdyn.
  • Os gwneir cais am ad-daliad o Gerdyn Rhodd, bydd rhaid talu ffi weinyddol, sef £5.00.
  • Eiddo Prifysgol Aberystwyth yw’r cardiau ar bob adeg, ac ni ellir eu trosglwyddo o’r unigolion y'u rhoddwyd iddynt.  Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i wneud cais am gael y cerdyn yn ôl, ac os gwna hynny, bydd yn talu unrhyw gredyd sy’n weddill yn ôl i’r unigolyn.
  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd unrhyw Gerdyn Rhodd Aber yn cael ei golli na'i ddifrodi.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i newid telerau ac amodau’r cerdyn heb roi unrhyw rybudd o flaen llaw i ddaliwr y cerdyn.
  • Mae cynllun Cerdyn Rhodd Aber yn ddull o dalu am nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth.  Nid yw hyn yn newid nac yn disodli’r hawliau defnyddwyr yn ôl cyfraith y DU.
  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a brynir drwy’r cynllun, ac eithrio’r hyn sydd yng nghyfraith safonol y DU.

Diogelu data'ch Cerdyn Aber

Wrth dderbyn eich Cerdyn Aber fe dderbyniwch delerau ac amodau defnyddio'r cerdyn, a thelerau ac amodau prosesu'ch data personol ar gyfer ei ddefnyddio. Caiff y data a brosesir ar eich cerdyn a'r data a gynhyrchir wrth i chi ddefnyddio eich cerdyn ei gynnwys yn rhwymedigaeth gytundebol y Brifysgol i ddarparu amgylchedd diogel i fyfyrwyr a staff a hefyd gan ei diddordebau cyfreithlon i ddefnyddio'r data hwn er budd cyffredinol y sefydliad a'r defnyddwyr eu hunain.

1. Mae Cerdyn Aber yn:

  • dangos enw, categori, rhif myfyriwr / staff, a llun y defnyddiwr;
  • cynnwys cod bariau a rhif a ddefnyddir â systemau'r Llyfrgell;
  • dangos cod QR sy'n gysylltiedig â thudalen ar y we sy'n dangos a oes gan y defnyddiwr gyfrif staff / myfyriwr dilys;
  • cynnwys data adnabod lleoliad a seilir ar gofnod staff/myfyriwr y defnyddiwr dan sylw, sy'n cael ei gyfeirio at wahanol systemau'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod modd i'r defnyddiwr fynd i mewn i adeiladau priodol.
  • mae gan bob Cerdyn Aber rif rom unigryw sy'n gysylltiedig â chyfrif y deiliad, ac fe gaiff ei ddefnyddio i roi dilysiad ar gyfer gwasanaethau megis argraffu.

2. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber fe fydd data cofnodi yn cael ei gynhyrchu'n uniongyrchol am bob achlysur pan ddefnyddir y cerdyn:

3. Mae data presenoldeb myfyrwyr (drwy sganio Cerdyn Aber wrth y mannau presenoldeb yn y darlithfeydd) yn cael ei gofnodi a'i ychwanegu at eich cofnod academaidd. Fe'i defnyddir i fonitro presenoldeb ac at ddibenion dadansoddi dysgu ac fe'i cedwir am 6 blynedd ar ôl i chi adael y Brifysgol.

4. Os defnyddir Cerdyn Aber gan staff fel rhan o system amser a phresenoldeb, fe gedwir y data am 6 blynedd.

5. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i fynd i mewn i adeiladau ac ystafelloedd fe fydd system drysau SALTO yn cynhyrchu data na ddefnyddir oni bai bod ei angen ar gyfer ymholiadau ystadegol, diogelwch, gweithdrefnau iechyd a diogelwch, ymchwilio i achosion o dorri rheoliadau neu archwiliadau'r heddlu. Cedwir y data hwn am 2 flynedd.

6. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i brynu bwyd neu eitemau eraill ar y campws, fe gynhyrchir cofnod prynu a gedwir, yn unol â chofnodion ariannol eraill, am 7 mlynedd. Defnyddir y data hefyd am ddadansoddiadau ystadegol dienw, ond nid at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y defnyddir eich data, cysylltwch â'r Rheolwr Diogelu Data yn infocompliance@aber.ac.uk

Am fwy o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn diogelu data, gweler  https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp