Canolfan Dogfennau Ewropeaidd

Cyflwyniad

Mae Canolfannau Dogfennau Ewropeaidd (CDE) yn ffurfio rhwydwaith o ganolfannau gwybodaeth a sefydlwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yn 1963 i gefnogi astudio, dysgu ac ymchwil ar lefel prifysgol. Yn y Deyrnas Gyfunol, sefydlwyd y canolfannau hyn yn y 1970au, ar ôl i’r DU ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd. Fe’u lleolir mewn prifysgolion er mwyn i staff academaidd a myfyrwyr fedru cael at ddogfennau’r Undeb Ewropeaidd yn hawdd ac fe’u cefnogir yn hyn o beth gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae dros 40 o ganolfannau o’r fath yn y Deyrnas Gyfunol, a dwy ohonynt yng Nghymru – yma yn Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gall Canolfannau Dogfennau Ewropeaidd eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am y pynciau canlynol:

  • Cyfraith Ewrop
  • Polisïau a sefydliadau Ewrop
  • Integreiddio Ewropeaidd

Lleoliad a Mynediad

Mae'r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd yn Aberystwyth wedi'i lleoli ar Lawr F Llyfrgell Llyfrgell Hugh Owen. Gall staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ei defnyddio a hefyd bobl sydd am gael gwybodaeth am yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r holl ddeunyddiau yn y GDE yn cael eu cynnwys yng nghatalog y llyfrgell Primo a rhoddir y rhagddodiad EDC iddynt a’r rhif dosbarth KW. Mae’r deunyddiau ar gael i gyfeirio atynt yn unig.

Adnoddau

Sefydlwyd CDE Aberystwyth yn hwyrach na’r rhan fwyaf o’r canolfannau – yn 1996. Ond datblygiad ydyw ar y Ganolfan Gyfeirio Ewropeaidd a fu’n bodoli ers y 1970au. Mae’r rhan fwyaf o’r prif destunau yn dyddio’n ôl i ganol y 1970au a chyn hynny, ond ers 1996, mae’r GDE wedi derbyn y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau swyddogol a lunnir gan brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, megis y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r rhain yn cynnwys testunau deddfwriaethol, adroddiadau ac ystadegau ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd ac integreiddio Ewropeaidd.

Mae’r dogfennau swyddogol sydd ar gael yn y GDE yn cynnwys:

Mae mwy a mwy o wybodaeth Ewropeaidd bellach ar gael yn electronig, a llawer ohono ar gael ar y we, e.e.:

  • European Sources Online
    Mae hon yn darparu gwybodaeth ar sefydliadau a gweithgareddau’r Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac ar faterion sydd o bwys i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd.
  • Europa
    Dyma weinydd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n adnodd hanfodol ar gyfer pawb sy’n astudio materion yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys testun cyflawn nifer fawr o ddogfennau swyddogol yr UE, briffiadau newyddion dyddiol, cysylltiadau â thudalennau cartref holl sefydliadau’r UE a llawer mwy.
  • EUR-Lex
    Yma fe gaiff y cyhoedd fynediad i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys testun cyflawn cytundebau cyfunol a’r holl ddeddfwriaeth sydd mewn grym. Ceir yma hefyd destun cyflawn cyfresi C ac L y Cyfnodolyn Swyddogol ar gyfer y 45 diwrnod diwethaf.
  • PreLex
    Mae’r safle hwn yn eich galluogi i olrhain cynnydd cynigion a mentrau deddfwriaethol yr UE.
  • Summaries of European Legisation
    Crynodeb o’r prif fesurau a gweithdrefnau deddfwriaethol ar gyfer pob un o weithgareddau’r Undeb Ewropeaidd.
  • European Court of Justice (CURIA)
    Mae’n darparu testun cyflawn trafodaethau’r Llys Cyfiawnder a Llys Ewropeaidd y Gwrandawiad Cyntaf ac Achosion Staff ers Mehefin 1997, yn ogystal â datganiadau i’r wasg sy’n ymwneud â phenderfyniadau pwysig.
  • EU Bookshop
    Siop un-stop ar gyfer amryw gyhoeddiadau sefydliadau, asiantaethau a chyrff eraill yn Ewrop.
  • EU News
    Cyhoeddiad misol sy’n rhoi manylion am weithgareddau’r Comisiwn Ewropeaidd a holl sefydliadau eraill y Comisiwn. Mae’r GDE yn dal copïau hyd at ddiwedd 2005.
  • Fact Sheets on the European Union
    A range of fact sheets available to read online or download in PDF format.

Cysylltiadau a Chymorth

Anita Saycell
(01970 62) 1867
aiv@aber.ac.uk