Defnyddio Cyfrifiaduron at Ddibenion Anacademaidd gan Fyfyrwyr
Mae rhwydwaith cyfrifiadurol Prifysgol Aberystwyth yn rhan o JANET – rhwydwaith addysg ac ymchwil y DU. Mae’r holl ddefnydd o’r rhwydwaith yn rhwym i Bolisi Defnydd Derbyniol JANET a Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Mae cyfleusterau cyfrifiadurol yn cael eu darparu i ddefnyddwyr awdurdodedig Prifysgol Aberystwyth i gefnogi amcanion academaidd y Brifysgol.
Caniateir defnydd anacademaidd fel braint i’n defnyddwyr cyhyd nad yw yn:
- torri’r gyfraith
- mynd yn groes i Bolisi Defnydd Derbyniol JANET
- defnyddio cymaint o'r lled band neu adnoddau’r rhwydwaith fel y gellid peryglu defnydd academaidd priodol o'r rhwydwaith gan ddefnyddwyr eraill
- peryglu diogelwch y rhwydwaith neu ddefnyddwyr eraill
- torri amodau hawlfraint mewn unrhyw fodd
- ymyrryd â phreifatrwydd unigolion
- ail-gyfeirio amser staff fel na allant ganolbwyntio ar gefnogi defnydd academaidd o’r rhwydwaith
- tarfu ar neu rwystro eraill rhag defnyddio’r cyfleusterau at ddibenion academaidd
Gweithgareddau penodol NA chaniateir
- Rhaglenni Tebyg-i-Debyg (P2P)
- Defnyddir yn bennaf i rannu ffeiliau, cyfathrebu a gemau. Cedwir golwg ar rwydwaith PA am weithgareddau P2P ac os canfyddir hyn, byddwch yn colli eich cysylltiad allanol am 30 munud. Byddwch yn dal yn medru cael mynediad i dudalennau mewnol PA. Rhaid ichi analluogi P2P ar unrhyw raglenni sydd ar eich cyfrifiadur er mwyn medru defnyddio rhwydwaith PA heb unrhyw doriad
- Defnyddio gwe-gamerau cudd na dangos gweithgareddau unigolion y gellir eu hadnabod ac nad ydynt wedi rhoi eu caniatâd i gael eu ffilmio
- Mynediad i ddelweddau, data nag unrhyw ddeunydd arall sy’n anweddus, dramgwyddus neu’n aflednais
- Anfon e-byst na ofynnwyd amdanynt (spam)
- Anfon e-byst sy’n tarfu ar rywun, sy’n dramgwyddus, neu’n ddifenwol
- Postio deunydd ar y we a safleoedd cymdeithasol sy’n tarfu ar rywun, sy’n dramgwyddus neu’n ddifenwol
Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth gyfrifoldeb i sicrhau y cedwir at Bolisi Defnydd Derbyniol JANET ac yn cadw’r hawl i newid ffurfweddiadau’r rhwydwaith i hwyluso hyn a dileu mynediad breintiedig lle bo rhaid.
Camau Disgyblu
Gall camddefnyddio cyfleusterau mewn un o’r ffyrdd a amlinellir uchod gael canlyniadau difrifol. Byddwn yn gweithredu’n ddioed pan fo defnydd o’r fath yn cael ei ganfod:
- Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhwystro mynediad i’r rhwydwaith a gofynnir i unrhyw un sy’n camddefnyddio’r cyfleusterau gwrdd â staff y GG i drafod y mater.
- Bydd camau pellach o fewn Rheoliadau’r GG a all gynnwys codi dirwy, yn dibynnu ar natur y camymddygiad a’i ganlyniadau.
- Bydd unigolion yn gyfrifol yn bersonol am dorri deddfwriaeth hawlfraint neu Warchod Data