Diwrnod Arddangos Alumni
George Powell, Nanteos 1842-1882
Roedd George Powell yn aelod o deulu oedd â chysylltiadau cryf gyda Sir Aberteifi; roedd amryw o aelodau’r teulu wedi cynrychioli’r sir yn y Senedd. Fe’i haddysgwyd yn Eton a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen a threuliodd ei oes yn ymwneud â diddordebau addas i ŵr bonheddig; aeth teithio, casglu, llenyddiaeth a cherddoriaeth â’r rhan fwyaf o’i amser. Am rai blynyddoedd ychydig o amser a dreuliodd yn Nanteos, plasty’r teulu nid nepell o Aberystwyth, gan nad oedd pethau’n dda o gwbl rhyngddo ef a’i dad. Treuliodd lawer o amser dramor ond gan ei bod yn ymddangos nag oes dyddiaduron na dyddlyfrau ar gael, ni ellir dilyn trywydd ei holl deithiau. Teithiodd yn helaeth yn Ewrop ac ymwelodd â Gwlad yr Iâ a Gogledd Affrica. Ar ôl 1878, pan etifeddodd ystâd Nanteos, treuliodd ragor o amser yng Nghymru. Yn 1880-81 roedd yn Uchel Siryf Aberteifi. Priododd yn 1881, ond bu farw yn ddi-etifedd ym mis Hydref 1882. Fe’i claddwyd ym mynwent Llanbadarn Fawr.
Rhoddodd a gwaddolodd George Powell lawer o lyfrau, llawysgrifau a chelfyddydweithiau i Goleg Prifysgol Aberystwyth. Ei fwriad gwreiddiol oedd rhoi ei gasgliadau i dref Aberystwyth i fod yn gnewyllyn amgueddfa, ond newidiodd ei feddwl pan nad oedd adeilad addas ar gael. Gadawodd lawer o gyfrolau o gerddoriaeth i Goleg Cerddorol Cymru a sefydllwyd gan y Dr Joseph Parry; yn nes ymlaen daeth y deunyddiau hyn i feddiant Coleg Prifysgol Cymru.
