Newidiadau i gasgliadau

Mae bodolaeth nifer o gasgliadau a lleoliadau gwahanol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen yn gallu peri dryswch i ddefnyddwyr pan fyddant yn chwilio am lyfrau a chyfnodolion. Perir y dryswch pennaf rhwng llyfrau ‘cyffredin’ eu maint a llyfrau maint quarto, gan nad yw ein defnyddwyr i gyd yn gwybod beth yw diben y tair llythyren ‘Qto’ ar ôl rhai rhifau dosbarth.

Oherwydd hyn rydym yn mynd i gael gwared â’r lleoliadau quarto ar wahân, a rhoi’r llyfrau hynny yn eu llefydd priodol yn y prif gasgliadau gan greu un rhediad hawdd ei ddeall a’i chwilio. Mae’r drefn hon eisoes wedi cael ei mabwysiadu yn Llyfrgell Thomas Parry ac mae’n gweithio’n hwylus iawn yno.

Golyga hyn y bydd yn rhaid i ni ailosod yr holl silffoedd ar Lawr F gan leihau eu nifer ym mhob bae o saith silff i chwech. Bydd hyn yn lleihau nifer y silffoedd ar Lawr F a fydd yn ei dro yn lleihau nifer y llyfrau y gallwn eu cadw yno. Fel y cam cyntaf, ac er mwyn osgoi gorfod chwynnu pob casgliad ar y llawr, bwriadwn symud y Casgliad Celtaidd yn ei grynswth i’r Ystafell Astudio Grŵp (Llyfrgell y Gyfraith gynt) ar Lawr E. Fel rhan o’r symud, byddwn yn gosod llyfrau quarto y Casgliad Celtaidd gyda gweddill y Casgliad, ond ar wahân i hynny bydd ei gynnwys yn aros yn union fel ag y mae yn awr. Bydd y gwaith hwn yn dechrau o fewn y dyddiau nesaf. Efallai nad hwn fydd lleoliad parhaol y Casgliad Celtaidd gan fod yna gynlluniau i ail-wneud yr ystafell hon pan fydd cyllid yn caniatáu.

Ymddiheurwn am unrhyw sŵn ac anghyfleustra bydd hyn yn eu hachosi, ac er mwyn cadw’r tarfu cyn ised â phosibl, byddwn yn cyfyngu’r symud i ychydig oriau ar ddechrau bob diwrnod yn ystod y tymor.