Newyddion a Digwyddiadau
Am y diweddaraf am systemau a gwasanaethau'r Brifysgol, ewch i Statws Gwasanaethau PA
Darllenydd Uwch Kortext - Gwasanaethau Llyfrgell
16/02/2026
O 12 Mawrth bydd yn rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio dull gwahanol i gael mynediad at yr opsiynau Darllenydd Uwch yn Kortext e.e. testun-i-leferydd. Mae'r feddalwedd sy'n cynnal ein darlleniadau wedi’u digideiddio yn cael ei diweddaru ac yn aros am integreiddio pellach â Kortext.
I gael mynediad at yr opsiynau Darllenydd Uwch, bydd angen i chi gymryd y camau canlynol:
- Agor y darlleniad wedi'i ddigideiddio ar eich rhestr ddarllen.
- Lawrlwytho copi o'r darlleniad (sydd wedi'i leoli ar ochr chwith y sgrin).
- Mewngofnodi i wefan Kortext.
- Uwchlwytho’r testun wedi'i lawrlwytho i'ch Silff Lyfrau. Agor y darlleniad o'r Silff Lyfrau i gael mynediad i'r opsiynau Darllenydd Uwch.
Byddwn yn eich diweddaru pan fydd yr integreiddio wedi'i gwblhau.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni ar digideiddio@aber.ac.uk.
Sesiynau Addysg Ddigidol ddiweddaraf 26/02/2026 - 11/03/2026
23/02/2026
Mis Chwefror
26/02 E-learning Enhanced: Introduction to the Blackboard AI Design Assistant (Ar-lein)
Mis Mawrth
05/03 E-learning Enhanced: Designing Learning and Teaching Activities using Vevox, polling tool (Ar-lein)
11/03 Enhanced: Design interactive online learning activities using Blackboard Discussions and Journals (Ar-lein)
Amserau/archebu
Cyfeirnodi cywir
11/02/2026
Mae sgiliau cyfeirnodi yn rhan bwysig a hanfodol o ysgrifennu academaidd. Eisiau cymorth 1:1 gyda chyfeirnodi? Cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc a bwciwch apwyntiad i fynd drwy bopeth sydd angen i chi wybod am gyfeirnodi: https://www.aber.ac.uk/cy/library/help/librarians/
Dysgwch sut i gyfeirnodi pob ffynhonnell rydych yn ei defnyddio'n gywir, a deall beth yw canlyniadau methu â’u cydnabod. Ymwelwch â'r Canllaw Cyfeirnodi: https://libguides.aber.ac.uk/cyfeirnodi
Tarfu ar y Gwasanaeth Digideiddio
11/02/2026
O 5yp ar 6 Mawrth tan 16 Mawrth, mae'r CLA (Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint) yn uwchraddio'r llwyfan DCS lle mae darlleniadau wedi’u digideiddio yn cael eu prosesu a'u storio. O ganlyniad, ni ellir cyflwyno na phrosesu ceisiadau newydd i ddigideiddio yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ar 17 Mawrth.
Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar fyfyrwyr a byddant yn gallu cael mynediad at yr holl ddarlleniadau cyfredol sydd wedi’u digideiddio fel arfer ar eu rhestrau darllen trwy gydol y cyfnod hwn.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni ar digideiddio@aber.ac.uk.
Sesiynau galw-heibio mathemateg ac ystadegau
28/01/2026
Eisiau ychydig o help ac arweiniad ar gwestiwn mathemateg neu ystadegau?
Ymwelwch â’r sesiwn galw-heibio wythnosol (yn ystod tymor):
- Dydd Iau
- 10:00-13:00
- Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen (drws nesaf i’r man gwerthu)
Gallwch hefyd anfon e-bost i maths-help@aber.ac.uk gyda'ch ymholiad os na allwch wneud y sesiwn galw-heibio.
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 13 Chwefror 2026
12/02/2026
P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.
Dewch i weld y stondin Pop Aber ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen i ddysgu mwy!
Dydd Mawrth 10fed Chwefror - Llyfrgell Hugh Owen Lefel E swn yn dod o waith atgyweirio
10/02/2026
Mae silffoedd llyfrau yn cael eu gosod ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen heddiw (Dydd Mawrth 10fed Chwefror). Bydd y gwaith yn achosi swn a allai amharu ar fyfyrwyr a staff yn y llyfrgell. Yr ydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Wyt ti eisiau helpu gwneud hi'n haws i ddarganfod llefydd o gwmpas y campws?
09/02/2026
Wyt ti wedi colli dy ffordd ar y campws? Rydym yn cynnal astudiaeth fer i ddeall sut mae myfyrwyr yn darganfod eu ffordd o gwmpas Prifysgol Aberystwyth, ac angen dy help.
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i gymryd rhan mewn sesiwn anffurfiol, fer o ran llywio'r campws.
Pam cymryd rhan?
- Helpu i wneud y campws yn le haws i'w lywio.
- Creu gwahaniaeth cadarnhaol i fyfyrwyr.
- Derbyn £5 o gredyd Cerdyn Aber fel diolch.
I gofrestru
I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan, mae modd cwblhau’r ffurflen ganlynol: https://forms.office.com/e/GWfynGMEk6 neu anfon e-bost at croeso@aber.ac.uk.
Eisiau gwella'ch sgiliau astudio'r semester hwn?
19/01/2026
Darganfyddwch pa sesiynau sgiliau sy’n digwydd a bwciwch eich lle yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/
Peidiwch â cholli allan! Tanysgrifiwch i’n e-bost wythnosol i gadw’n gyfredol gyda’r gweithdai sydd ar gael i chi: tanysgrifiwch yma.
Diweddariad Blackboard fis Chwefror
06/02/2026
Gwelliannau yn niweddariad Blackboard fis Chwefror:
- Defnyddio awtomeiddio i atgoffa myfyrwyr i wirio eu hadborth
- Pentyrru blociau yn fertigol yn Dogfennau
- Gwell defnyddioldeb ar gyfer Cyflawniadau
Am fanylion pellach, gweller ein blog: Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Chwefror 2026.
Galw am Gynigion: Cynhadledd Fer: Cynhadledd y Rhwydwaith Niwroamrywiaeth
05/02/2026
Bydd y gynhadledd fer nesaf yn cael ei chynnal fore dydd Mawrth 14 Ebrill 2026.
Rydym ar hyn o bryd yn gwahodd cydweithwyr i gyflwyno cynigion. Gallwch archebu’ch lle nawr hefyd. Gweler ein blog am ragor o wybodaeth.
Gwobr Cwrs Nodedig Blackboard 2025-26
12/01/2026
Mae’r ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig eleni ar agor, a’r dyddiad cau yw dydd Gwener 30 Ionawr 2026.
Gweler ein neges flog am ragor o wybodaeth.
Llyfrgell, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2020 Ebost: llyfrgell@aber.ac.uk
