Llyfrgellwyr Pwnc

Arbenigedd y Llyfrgell ar gyfer eich pwnc

P'un a oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i wybodaeth, datblygu eich sgiliau ymchwil, neu wneud defnydd effeithiol o adnoddau'r llyfrgell, gall eich Llyfrgellydd Pwnc ddarparu arweiniad clir ac ymarferol drwy gydol eich astudiaethau.

Cymorth i Fyfyrwyr

Mae eich Llyfrgellydd Pwnc yma i'ch helpu i lwyddo

O'ch aseiniad cyntaf i'ch traethawd hir terfynol, gall eich Llyfrgellydd Pwnc ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol drwy gydol eich astudiaethau.

Gallwn eich helpu gyda:

  • Dod o hyd i ffynonellau o safon uchel ar gyfer aseiniadau ac ymchwil
  • Datblygu sgiliau chwilio effeithiol
  • Cael mynediad at lyfrau, e-lyfrau, cyfnodolion ac adnoddau arbenigol
  • Cyfeirnodi
  • Defnyddio rhestrau darllen a darganfod testunau allweddol yn eich pwnc
  • Datblygu hyder yn eich sgiliau ymchwil academaidd

Mae cymorth cyfrwng Cymraeg ar gael i bob myfyriwr, beth bynnag yw eich pwnc neu faes astudio. Os hoffech drafod eich anghenion gwybodaeth yn Gymraeg, gan gynnwys cymorth gyda chwilio am lenyddiaeth, dod o hyd i ffynonellau perthnasol a dibynadwy, cyfeirnodi, neu unrhyw ymholiadau eraill sy'n ymwneud â'r llyfrgell, cysylltwch â llyfrgellwyr@aber.ac.uk i drefnu cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid oes yr un cwestiwn yn rhy fach. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, rydym yma i helpu.

Dewch o hyd i'ch adran yn y rhestr isod a chysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc.

Cymorth i Staff

Cymorth i staff academaidd

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn gweithio'n agos gydag adrannau academaidd i gefnogi addysgu, dysgu ac ymchwil.

Gallwn helpu gyda:

  • Addysgu a hyfforddi sgiliau gwybodaeth
  • Adnoddau a rhestrau darllen Aspire
  • Adolygu a gwella darpariaeth rhestrau darllen
  • Cymorth ac arweiniad ar gyfer ymchwil

Anogir staff academaidd i gysylltu â'u Llyfrgellydd Pwnc am gymorth gyda chynigion ar gyfer adnoddau, addysgu sgiliau gwybodaeth, ac unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r Llyfrgell.

Dewch o hyd i'ch adran yn y rhestr isod a chysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc.

Dewch o hyd i'ch adran yn y rhestr isod a chysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc am gymorth a chyngor arbenigol. 

Llyfrgellydd Pwnc Academaidd Adran Academaidd Trefnu i gwrdd 1:1   Sesiwn galw-heibio

Anita Saycell

 

aiv@aber.ac.uk 

01970 62 1867

 

Trefnwch amser gydag Anita Saycell [aiv] (Staff)   

Dydd Mawrth: 

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen 

(tymor yn unig)

 

Dydd Iau:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau, Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

(tymor yn unig)

Joy Cadwallader

 

jrc@aber.ac.uk

01970 62 1908

 

Trefnwch amser gyda Joy Cadwallader [jrc] (Staff)

Dydd Mawrth:

13:00-15:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen

(tymor yn unig)

 

Dydd Iau:

15:00-16:00, Cyntedd Ieithoedd Modern, Llawr D, Adeilad Hugh Owen

(tymor yn unig)

Non Jones

 

nrb@aber.ac.uk

01970 62 2397

 

Trefnwch amser gyda Non Jones [nrb] (Staff)

Dydd Llun:

13:00-15:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen

(tymor yn unig)

 

 

 

Sarah Gwenlan

 

ssg@aber.ac.uk 

01970 62 1870

 

Trefnwch amser gyda Sarah Gwenlan [ssg] (Staff)

Dydd Mawrth:

13.30-15.30, Desg Ymholiadau, Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

(tymor yn unig)

 

Dydd Mercher:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen

(tymor yn unig)

 

Dydd Iau:

13:30-15:00, Ystafell 0.01, P5

(tymor yn unig)

Simon French

 

sif4@aber.ac.uk 

01970 62 2080

 

Trefnwch amser gyda Simon French [sif4] (Staff)

 

 

 

Dydd Iau:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen

(tymor yn unig)

Simone Anthony

 

sia1@aber.ac.uk 

01970 62 2402

Trefnwch amser gyda Simone Anthony [sia1] (Staff)

Dydd Llun:

09:00-09:50, Ystafell 1.31, Adeilad Gwendolen Rees

(tymor yn unig)

 

Dydd Llun:

11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen

(tymor yn unig)

 

Blog y Llyfrgellwyr

Tanysgrifiwch i Blog y Llyfrgellwyr i dderbyn y newyddion am weithgareddau'r Llyfrgellwyr Pwnc. Dyma'r cofnodion diweddaraf:

    Beth i’w Ddisgwyl ar Daith o Amgylch y Llyfrgell

    I lawer o fyfyrwyr, mae teithiau o amgylch y llyfrgell yn ffordd ddefnyddiol o ddod i adnabod y lle yn ystod yr Wythnos Groeso. Rydym hefyd yn gwybod y gall dechrau prifysgol, ymweld ag adeilad newydd, a chwrdd â phobl newydd deimlo ychydig yn llethol pan nad ydych chi’n siŵr beth i’w ddisgwyl. Er mwyn […]

    Diweddariadau o Lyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

    Wedi’i guddio ar y pedwerydd llawr, y tu ôl i ffasâd coch trawiadol Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, y mae ail lyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Er mai myfyrwyr Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg sy’n gweithio gerllaw sy’n ymweld â hi’n bennaf fel man astudio cyfleus (a thrawiadol), gobeithio y bydd rhai o’r newidiadau a welwch yma yn ysbrydoli […]

    Sgan-tastig! Digideiddio sy’n cyflawni!

    Gan fod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, mae’n gyfle da i ystyried effaith ein gwasanaeth digideiddio – ac mae wedi bod yn flwyddyn i’w chofio!  Gan weithio’n agos gyda’r staff addysgu ac ymateb i’r galw parhaus ymhlith myfyrwyr, mae’r gwasanaeth wedi sicrhau bod deunyddiau darllen allweddol ar gael yn gyson ar draws adrannau. […]

    Diolch, Elizabeth

    Wrth i Elizabeth Kensler baratoi i adael Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, rydym am gymryd eiliad i ddathlu ei chyfraniad a’r effaith barhaol y mae’n gadael ar ei hôl. Mae gan Elizabeth allu rhyfeddol i gysylltu â phobl, cydweithwyr, defnyddwyr y llyfrgell, ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac i greu amgylchedd sy’n teimlo’n wirioneddol groesawgar a […]

    Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang

    Heddiw (21 Mai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang. O fewn Taith y Myfyriwr, mae gennym Dîm Hygyrchedd a Lles sy’n gweithio gyda myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Mae’r Tîm yn cynnwys dros 50 o staff cynorthwyol anfeddygol sy’n darparu cymorth mentora neu sgiliau astudio 1:1 i fyfyrwyr ag anabledd neu wahaniaeth dysgu.  Y llynedd fe […]

    Y llyfrgell: mae goroesi tymor yr arholiadau’n dechrau yma!

    Daeth yr adeg unwaith eto!  Mae’r amser yn prysur nesáu, mae’r llyfrgell yn llenwi, ac yn sydyn mae pawb yn siarad am adolygu ac arholiadau. Rydyn ni gyd wedi bod yn yr sefyllfa, ac er nad oes unrhyw un yn hoffi arholiadau, dyma eich cyfle i ddangos popeth rydych chi wedi’i ddysgu eleni. Cymerwch anadl. […]

    Llyfrgell Promptiau DA

    Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol wedi cynhyrchu Llyfrgell Promptiau DA. Mae’r promptiau hyn yn rhoi rhai syniadau i chi ynghylch sut y gallech chi ddefnyddio DA Cynhyrchiol mewn ffordd foesegol a chyfrifol. Wrth gwrs, nid oes disgwyliad eich bod chi’n defnyddio DA – gweler ein blogbost diweddar ar Beth os nad ydw i eisiau […]

    Arhoswch funud… Beth os nad ydw i eisiau defnyddio DA?

    Mae DA ym mhob man ar hyn o bryd. Mae’n ysgrifennu crynodebau, yn egluro damcaniaethau, yn cywiro gramadeg ac yn argymell rhestrau cerddoriaeth. Ond cofiwch, er nad oes llawer o bobl yn dweud hyn: does dim rhaid i chi ei ddefnyddio. P’un a ydych chi’n teimlo’n bryderus, yn ansicr, neu’n ddifater ynghylch y peth, mae […]

    Cyfarchion yr ŵyl!

    Cyfarchion yr ŵyl i holl gwsmeriaid Llyfrgelloedd y Brifysgol oddi wrth y tîm Cysylltiadau Academaidd.Dyma ychydig o uchafbwyntiau i’w rhannu o flwyddyn orlawn Ceir hyd i ystadegau defnyddio a rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau llyfrgell yr ydym yn eu darparu, gan gynnwys addysgu Llythrennedd Gwybodaeth a chymorth un-i-un, Digideiddio, SgiliauAber, Rhestrau Darllen Aspire, Canllawiau […]

    Na, rwyt ti’n wych, neu Pam mai Deallusrwydd Artiffisial yw fy Edmygwr Mwyaf Brwd.

    Mae’r rhan fwyaf o systemau Deallusrwydd Artiffisial (DA) wedi’u hyfforddi i fod yn gymwynasgar, cwrtais a dymunol, doed a ddelo. Mae hynny’n wych pan fyddwch chi’n gofyn am rysáit hawdd am lasagna neu’n chwilio am ‘bawen lawen’ rithiol ar ôl i chi redeg 5K yn nannedd y gwynt a’r glaw. Bydd bob amser “Da iawn!” […]