Ffurflen Mynediad Darllenwyr Cyswllt - Trigolion lleol
Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu trigolion lleol (o Geredigion) i wneud cais i fod yn Ddarllenwr Cyswllt yn llyfrgelloedd y Brifysgol ar gyfer astudiaeth bersonol ac ymchwil. Rhaid i'r ymgeiswyr fod dros 18 mlwydd oed.
Mae Darllenyddiaeth Gysylltiol i breswylwyr lleol (o Geredigion) yn costio £30 y chwarter ac yn darparu mynediad i'r llyfrgell, benthyca, argraffu, copïo a sganio.
Bydd gofyn i ddangos dogfen adnabod gyda llun a chyfeiriad cyn caniatâ mynediad.
Mae pob defnydd yn amodol ar Rheoliadau, polisïau a chanllawiau Gwasanaethau Llyfrgell
I wneud cais llenwch y ffurflen gais Darllenydd Cysylltiol isod.
