Gwasanaethau TG a Gwasanaethau Llyfrgell ar gyfer Darllenwyr Cyswllt Cofrestredig

Mae Darllenwyr Cyswllt Cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael manteisio ar wasanaethau TG a llyfrgell yn unol â Rheoliadau, Polisïau a Chanllawiau'r Brifysgol.

I ddefnyddio'r cyfleusterau hyn, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth
  • Cerdyn Aber

Sylwch nad oes gan Ddarllenwyr Cyswllt fynediad at yr ystod lawn o adnoddau electronig sydd ar gael i fyfyrwyr a staff y Brifysgol.

Rhoi eich cyfrif TG Prifysgol ar waith

Ar ôl i'ch cais am statws Darllenydd Cyswllt gael ei brosesu, byddwch yn gallu mynd ar-lein i roi eich cyfrif TG Prifysgol ar waith.  Byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau cyn gynted ag y bydd eich cyfrif yn barod.

Mae eich cyfrif TG yn caniatáu i chi:

  • Ddefnyddio eich cyfrif llyfrgell i weld a rheoli eich benthyciadau

Eich Cerdyn Aber

Ar ôl rhoi eich cyfrif TG ar waith, dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber ar-lein er mwyn iddo fod yn barod i'w gasglu pan fyddwch yn cyrraedd y campws.

Gellir defnyddio eich Cerdyn Aber ar gyfer:

  • Benthyca o’r llyfrgelloedd, gan gynnwys defnyddio'r peiriannau hunan-fenthyca
  • Cael defnyddio’r llyfrgell y tu allan i'r oriau craidd (mynd i mewn a gadael)
  • Llungopïo
  • Argraffu o e-bost
  • Sganio dogfennau ar gyfer e-bostio

Mynediad Di-wifr

Gall Darllenwyr Cyswllt ddefnyddio’r rhyngrwyd di-wifr drwy'r rhwydwaith PAU-Gwestai, sydd ar gael ledled y campws

Gweler isod yr opsiynau i wneud cais i fod yn Ddarllenwr Cyswllt ym Mhrifysgol Aberystwyth