Ydych chi'n academydd, yn ymchwilydd neu’n ymgeisydd PhD a hoffai adeiladu proffil yn y cyfryngau a rhannu eich ymchwil â chynulleidfa fyd-eang trwy ysgrifennu ar gyfer The Conversation?
Hyfforddiant byw ar-lein
Mae’r Tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn trefnu cyflwyniadau ar-lein achlysurol ar gyfer The Conversation. Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD Prifysgol Aberystwyth.
Yn ystod y sesiwn awr, bydd un o’r golygyddion yn esbonio i chi sut mae ‘The Conversation’ yn gweithio, beth yw manteision ysgrifennu ar gyfer y cyhoedd, sut i ystyried eich arbenigedd o ran ei bosibiliadau newyddion, sut i chwilio am syniadau bachog a safbwyntiau’r stori, sut i gynnig stori o safon i olygyddion adran, a mwy.
Cofrestrwch isod i gadw eich lle:
- Dydd Mercher 4 Mawrth 2026, 14:00-15:00 (trwy Zoom)
Cyrsiau hyfforddi fideo ar-lein
Mae pedwar cwrs hyfforddi byr ar-lein ar gael i ymchwilwyr, academyddion ac ymgeiswyr PhD gael mynediad iddynt pan fo’n gyfleus.
- The Conversation: Pwy ydyn ni a sut rydyn ni’n gweithio gydag academyddion
- Sut i ysgrifennu ar gyfer The Conversation
- Sut i gyflwyno syniad i The Conversation
- Ysgrifennu ar gyfer Insights (erthyglau hirach)
Nod y cyrsiau yw helpu academyddion i ddeall sut mae The Conversation yn gweithio, y cymorth golygyddol a ddarperir, ac i ddatblygu'r sgiliau i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd anacademaidd.
Mae'r cyrsiau'n cael eu mapio i fframwaith datblygu ymchwilwyr Vitae ac felly gallant gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol.
