Newyddion
Ben Lake AS yn gweld gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth wrth frwydro yn erbyn malaria
Mae’r AS dros Geredigion Preseli, Ben Lake, wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu am eu hymchwil sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn malaria.
Darllen erthygl
Gwersi o Ganada ar farwolaeth â chymorth
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Bethany Simmonds yn esbonio sut mae cyfraith marw â chymorth Canada wedi ehangu ers 2016. Beth all Cymru a Lloegr ei ddysgu am ddiogelwch, cymhwysedd a phwysau cymdeithasol?
Darllen erthygl
Amrywiaeth buchesi gwartheg traddodiadol yn cael ei heffeithio gan fridio dethol – ymchwil
Mae degawdau o fridio dethol ac arferion amaethyddol dwys wedi ail-lunio geneteg gwartheg - yn aml ar draul amrywiaeth werthfawr a gedwir mewn buchesi traddodiadol - yn ôl ymchwil newydd gan ein gwyddonwyr.
Darllen erthygl
Gwyddonwyr y Brifysgol yn dod â sioe fawr eclips yr haul i lan môr Aberystwyth
Yr wythnos nesaf mae's Brifysgol yn cynnal digwyddiad arbennig ar y Prom i ddangos eclips yr haul, lle gall y cyhoedd ddysgu gan arbenigwyr ac edrych yn ddiogel ar sioe ysblennydd yr wybren.
Darllen erthygl
Prosiect cadwraeth newydd yn gwarchod bywyd gwyllt prin mewn perllannau
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i ddiogelu rhai o rywogaethau prinnaf y wlad a geir mewn perllannau, yn rhan o fenter gadwraeth bwysig.
Darllen erthygl
Ymchwilio i gŵn fferm a’u cysylltiad â lledaeniad clefyd llyngyr sy'n peryglu bywyd
Mae astudiaeth arloesol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y gallai’r rhyngweithio dyddiol rhwng pobl a chŵn yng nghefn gwlad Cymru fod yn helpu llyngyr niweidiol i ledaenu rhwng rhywogaethau.
Darllen erthygl
Academydd o Aberystwyth yn ennill gwobr ryngwladol am lyfr ar gudd-wybodaeth y Rhyfel Oer
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr ryngwladol fawreddog am ei llyfr ar hanes cydweithrediad cudd-wybodaeth yn ystod y Rhyfel Oer.
Darllen erthygl
A oes gan siaradwyr Cymraeg synnwyr digrifwch gwahanol? Astudiaeth newydd
Mae hiwmor yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd, ond a yw’n bosib bod siarad Cymraeg yn dylanwadu ar yr hyn a gawn yn ddoniol? Dyna'r cwestiwn y mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio iddo.
Darllen erthygl
Deg ffordd syml a phrofedig o leihau eich amlygiad i lygryddion yn eich cartref
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Becky Underwood o'n Hadran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn trafod cyngor arbenigol ar leihau amlygiad i lygryddion niweidiol a chemegau gwenwynig a geir mewn bywyd modern.
Darllen erthygl
Dros un rhan o bump o ffermydd wedi profi trosedd yn ystod y 12 mis diwethaf – arolwg
Roedd 22% o ffermydd wedi dioddef trosedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ôl arolwg newydd o droseddau gwledig, a arweiniwyd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Pedair canrif o farddoniaeth menywod yn yr ieithoedd Celtaidd
Mae casgliad newydd o gerddi yn taflu goleuni ar leisiau barddonol menywod ledled Cymru, Iwerddon a'r Alban rhwng 1400 a 1800.
Darllen erthygl
Powdrau protein ‘uwch’ newydd ar gyfer heneiddio gweithredol yn cael eu profi gyda stumog artiffisial
Mae powdrau protein newydd gyda lefel uchel o faetholion i roi hwb i iechyd pobl hŷn actif yn cael eu datblygu gyda chymorth stumog artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Pennaeth NASA yn cwrdd ag academydd Aberystwyth sy’n helpu canfod bywyd ar y blaned Mawrth
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi cwrdd â Phennaeth NASA i drafod ei waith ar grwydryn planed Mawrth a fydd yn ceisio darganfod arwyddion bywyd ar y blaned goch.
Darllen erthygl
Cyhoeddiad prifysgolion i gydweithio ar gefnogi twf rhanbarthol a chyfleoedd addysgol
Mae dau o sefydliadau addysg uwch hynaf Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi ymrwymo i gydweithio i gryfhau mynediad at addysg a sgiliau ar draws y dirwedd addysg drydyddol yn eu rhanbarth.
Darllen erthygl
Parc Arloesi gwerth miliynau yn symud ymlaen gyda chefnogaeth partneriaid
Mae cynlluniau ar gyfer parc arloesi newydd gwerth miliynau o bunnau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cymryd cam sylweddol ymlaen gyda phartneriaid ariannu yn rhoi sêl bendith i'r cynlluniau amlinellol.
Darllen erthygl
Penbleth annibyniaeth Plaid Cymru – o brotest i rym
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles yn esbonio, ar ôl dod â chyfnod hir Llafur Cymru mewn grym i ben, fod yn rhaid i Blaid Cymru gydbwyso gofynion llywodraethu â’i huchelgeisiau cyfansoddiadol.
Darllen erthygl
Dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r Athro Syr George Berwick CBE
Mae'r Athro Syr George Berwick CBE wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl