Cynlluniau Astudio
Hanes / Hanes Cymru
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Datganiad Meincnodi Hanes gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Medi 2023
Information provided by Department of History and Welsh History
- Nod y Rhaglen yw datblygu diddordeb y sawl sy’n astudio Hanes a Hanes Cymru, a meithrin ynddynt wybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc. Mae’r Rhaglen yn cynnig i fyfyrwyr ddewis eang o ran cyfnodau a themâu hanesyddol o’r oesoedd canol hyd heddiw, gan gynnwys cyfleoedd i astudio agweddau ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd, mewn mwy nag un wlad. Mae’r modiwlau craidd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ymchwilio hanes sylfaenol ac ar ddealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol. Drwy hyn, nod y Rhaglen yw cynhyrchu graddedigion a fydd yn meddu ar sgiliau ymchwilio a dehongli o safon uchel, ac a fydd wedi cael blas ar werthfawrogi gwerth Hanes i gymdeithas, a fydd yn aros gyda hwy gydol eu hoes.
Information provided by Department of History and Welsh History
- Mae’r rhaglen yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:
Information provided by Department of History and Welsh History
-
-
A1 Gwybodaeth a dealltwriaeth o gymdeithasau dynol yn y gorffennol drwy astudio ystod o gyfnodau a themâu hanesyddol mewn sawl cyd-destun diwylliannol gwahanol.
-
A2 Y gallu i lunio cwestiynau hanesyddol, ac i chwilio a chanfod amryfal fathau o dystiolaeth eilaidd a gwreiddiol briodol, gan gynnwys y ffurf electronig.
-
A3 Y gallu i ddarllen a defnyddio ystod o destunau eilaidd a ffynonellau gwreiddiol yn feirniadol ac yn empathig.
-
A4 Gwerthfawrogi natur gymhleth ac amrywiol sefyllfaoedd, digwyddiadau a dulliau meddwl y gorffennol.
-
A5 Deall yr anawsterau cynhenid wrth ddehongli tystiolaeth hanesyddol, a’r modd y mae haneswyr yn ymdrin ag amwysedd, gwybodaeth annigonol a safbwyntiau gwahanol.
-
A6 Gwerthfawrogi sgiliau beirniadol sylfaenol yr hanesydd wrth bennu a defnyddio rheolau tystiolaeth ac wrth brofi dilysrwydd datganiadau drwy ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwilio a holi profedig i gynhyrchu a dehongli gwybodaeth hanesyddol.
-
A7 Annibyniaeth ddeallusol wrth osod a datrys problemau, dysgu sgiliau bywgraffyddiaethol, y gallu i gasglu, dewis, dethol, trefnu a chyfuno tystiolaeth hanesyddol, a’r gallu i lunio cwestiynau priodol ac i gynnig atebion iddynt gan ddefnyddio tystiolaeth a dadleuon dilys a pherthnasol.
-
A8 Ymwybyddiaeth atblygol a beirniadol o rymoedd newidiadau hanesyddol a’r ffyrdd y’u hesbonnir mewn dadleuon hanesyddiaethol.
-
A9 Trefnu dadleuon eglur a chydlynol ar lafar ac ar bapur, a’r gallu i wrando ac ymateb i ddadleuon eraill.
-
A10 Deall gwerth cymdeithasol Hanes, a meithrin mwynhad oesol ohono fel pwnc.
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:
Dysgir 1 drwy ddarlithoedd, seminarau a gwaith cwrs a asesir. Mae’r adnoddau a geir yn Llyfrgell y Brifysgol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi cymorth ychwanegol. Dysgir 2-10 drwy gyfuniad o fodiwlau Dewis gydag ystod o fodiwlau sgiliau a modiwl craidd hanesyddiaethol. Drwy hyn oll, disgwylir i fyfyrwyr gadarnhau ac ymestyn eu gwybodaeth drwy ddarllen yn annibynnol.
Asesu:
Asesir yn ffurfiannol drwy waith cwrs (1-9) a chynigir adborth ar hyn i fyfyrwyr yn rheolaidd. Asesir yn gyfansymiol drwy gyfuniad o arholiadau amser-rhydd (1-4, 8, 9) a phrosiectau (2, 6). Gellir hefyd ymgymryd â thraethawd estynedig (1-9). Nid yw cyflwyniadau llafar yn cael eu hasesu’n ffurfiol ar hyn o bryd, ond fe’u datblygir mewn gwaith seminar.
Information provided by Department of History and Welsh History
-
-
B1 Arfer â natur gymhleth ac amrywiol y pwnc a chymharu mewn ffordd ddeallus ar draws ffiniau amser a lle
-
B2 Rhesymu yn feirniadol
-
B3 Defnyddio dulliau a chysyniadau hanesyddol
-
B4 Dangos annibyniaeth barn
-
B5 Lledaenu gwybodaeth a syniadau i eraill, ar lafar ac ar bapur
-
C1 Chwilio, dewis, cymhathu a chyflwyno casgliadau o dystiolaeth hanesyddol o amryw ffynonellau
-
C2 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth reoli amser a’r gallu i weithio yn annibynnol a chyda phobl eraill
-
C3 Darllen ffynonellau eilaidd yn feirniadol
-
C4 Dadansoddi ffynonellau gwreiddiol mewn ffyrdd cymhleth, gan gynnwys y gallu i olrhain eu tarddiad, i ddadansoddi eu cynnwys a’u hiaith, ac i’w croesgyfeirio â ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd eraill
Information provided by Department of History and Welsh History
-
-
D1 Arddangos arweiniad ac ysgogiad, hunangyfeiriad a hunangymhelliant
-
D2 Arddangos hyblygrwydd ac annibyniaeth barn
-
D3 Arddangos sgiliau cyflwyno a chyfathrebu effeithiol, ar lafar ac ar bapur
-
D4 Rheoli amser a chadw at ddyddiadau cau
-
D5 Chwilio a chanfod gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o ffynonellau
-
D6 Rhoi ffurfiau amrywiol o wybodaeth (sy’n aml yn anghyflawn) yn eu cyd-destun, eu gwerthuso a’u croesgyfeirio
-
D7 Gweithio’n adeiladol mewn grwpiau, ac asesu gwerth a pherthnasedd syniadau a dadleuon eraill.
BA Hanes / Hanes Cymru [VV21]
Blwyddyn Academaidd: 2023/2024Cynllun Anrhydedd Cyfun - ar gael ers 1999/2000
Hyd (astudio Llawn Amser): 3 blwyddynLlunio Hanes
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500
Reading a Building
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz'
Interdisciplinary and decolonial history
Seals in Their Context in Medieval England and Wales
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations.
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid
Cymru a'r Tuduriaid
Famine in Medieval England
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century
Between Revolution and Reform: China since 1800
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene
Culture, Society and the Victorians
Wales under the Tudors
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu
The British Isles in the Long Eighteenth Century
Medieval England and Germany, c. 1050-1250
The European Reformation
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid
Cymru a'r Tuduriaid
Famine in Medieval England
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century
Between Revolution and Reform: China since 1800
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene
Culture, Society and the Victorians
Wales under the Tudors
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu
The British Isles in the Long Eighteenth Century
Medieval England and Germany, c. 1050-1250
The European Reformation
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1842-1914 (Rhan 1)
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 1)
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution
The Irish in Britain, c.1815-70 (Part 1): Migration and Settlement
Britain at War 1939-45 (Part 1)
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1914-1948 (Rhan 2)
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 2)
The Irish in Britain, c. 1850-1922 (Part 2): Community and Conflict
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict
Britain at War 1939-45 (Part 2)
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944