Ymchwil, Busnes ac Arloesi
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ac yn diweddaru gwefan Ymchwil, Busnes ac Arloesi (YBA) i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, yn gyfredol ac yn hawdd ei defnyddio. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd rhywfaint o gynnwys yn cael ei adolygu neu'n destun newid.
I gael y canllawiau, y prosesau, y polisïau a'r wybodaeth staff ddiweddaraf, anogir staff Prifysgol Aberystwyth i ymweld â gwefan Mewnrwyd YBA. Diolchwn i chi am eich amynedd tra bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.
Mae’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi (YBA) yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth i staff ymchwil – o ddatblygiad proffesiynol i baratoi ceisiadau am grantiau. Mae’r Adran hefyd yn borth i ddiwydiant a sefydliadau allanol eraill i ddarganfod mwy am y cyfoeth o gyfleoedd cyfnewid gwybodaeth a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth, a sut y gall busnes a’r byd academaidd gydweithio.

