Roboteg Deallus

‌‌Ymysg y mwyaf ac enwocaf o’i fath yn y DU ydy’r Grŵp Roboteg Deallus (IRG), sydd yn cynnal ymchwil o dan yr enw “amgylcheddau digyfyngiad”, mewn cyd-destun meddalwedd a chaledwedd.

Thema gyffredin i waith y grŵp yw modelau rheolaeth a gwybyddiaeth wedi’u hysbrydoli gan Fioleg.

Mae gwaith ar systemau gweledigaeth roboteg yn dilyn y thema yma ynghyd â thechnegau gweledigaeth mwy traddodiadol.

Mae gwaith roboteg gofodol wedi bod yn flaengar yn y prosiectau Beagle2 a chenadaethau y blaned Mawrth yn y dyfodol.

Mae elfen sylweddol gweledigaeth cyfrifiadurol yn y grŵp: lleoleiddiad sail-nodwedd o blatfformau yn yr awyr er mwyn ymchwiliad planedol; tyniad strwythur 3-D oddi wrth wrthrychau cymhleth; dulliau ar sail edrychiad i ddarparu robotiaid symudol gyda galluoedd gwahanol gan gynnwys mapio topolegol a sefydlogiad ystum. Mae ymchwil gweledigaeth yn fwy na chefnogaeth i’r maes roboteg yn unig, ffaith sy’n amlwg yn strategaeth diweddar yr Adran i ddatblygu’r Grŵp Ymchwil Gweledigaeth ymhellach.

 

Pynciau Ymchwil

  • Roboteg a rheolaeth wedi’u hysbrydoli gan Fioleg
  • Roboteg ofodol
  • Llywio gweledol a mapio
  • Roboteg maes

Gweithgareddau a Digwyddiadau

  • Aberystwyth/IM-CLeVeR Spring School
  • Microtransat 2011