Mrs Samantha Daniel-Dowden
Swyddog Contractau a Chymorth Masnachol
Manylion Cyswllt
- Ebost: sad61@aber.ac.uk
- Swyddfa:B1.07 Canolfan Ddelweddu
- Ffôn: +44 (0) 1970 621585
Crynodeb o'r Rol: Yn cefnogi gweithgareddau ymchwil ac arloesi'r Brifysgol drwy ddarparu contractau o ddydd i ddydd a chymorth masnachol.
Yn darparu cyngor ar gontractau cychwynnol i academyddion, prifysgolion a phartneriaid yn y diwydiant, ac yn drafftio a rheoli NDAs ac MTAs yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol, hefyd yn cefnogi gyda'r weinyddiaeth ariannol, gan gynnwys anfonebu, taliadau ac ad-daliadau sy'n gysylltiedig â phatentau a chysylltu â phartïon allanol.
Hefyd yn darparu cymorth gweinyddol ac ariannol i'r is-gwmni masnachol, Aber Business Consultancy Ltd, gan gynnwys anfonebu ac ad-daliadau i academyddion.
Mae Sam wedi byw a gweithio yn Aberystwyth eriod, enillodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Penglais a threuliwyd ei haddysg uwch yng Ngholeg Ceredigion lle cafodd AVCE mewn Astudiaethau Busnes. Cyn defnyddio'r cymhwyster hwn i sicrhau swydd mewn cymdeithas adeiladu genedlaethol yn syth o coleg, treuliodd dros ddeng mlynedd yn y pen draw yn gweithio yn y sector ariannol, lle cafodd brofiad ym mhob agwedd ar y diwydiant bancio gan gynnwys morgais ac yswiriannau.
Cyn ymuno â'r Brifysgol roedd hi'n cael ei chyflogi gan asiantaeth ystadau leol fel Negodwr Gwerthu, sydd wedi rhoi mewnwelediad defnyddiol i'r farchnad dai leol.
