Diwrnod Iechyd a Lles i'r staff - 25 Tachwedd 2026
Diwrnod iechyd a lles i hyrwyddo a chefnogi lles corfforol a meddyliol y staff.
Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026, 9.30yb - 3.00yp
Ystafelloedd Cynadledda Medrus
- Dewch i gwrdd â gwasanaethau allweddol a dysgu am y gwahanol gymorth ac adnoddau ar gyfer iechyd a lles sydd ar gael i’r staff, yn y Brifysgol ac yn allanol.
- Dysgwch sut i gael mynediad at yr armyw o gefnogaeth sydd ar gael i chi pan fo angen (e.e., AccessAble, Rhaglen Cymorth i Weithwyr).
- Meithrin ymwybyddiaeth a nodi strategaethau ar gyfer gwella iechyd corfforol, iechyd meddwl a meithrin gwytnwch.
- "Gwybod eich rhifau" profwch eich pwysedd gwaed a’ch BMI a chael gwybodaeth a chyngor.
- Deall pwysigrwydd meithrin arferion sy'n hybu iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol yn y tymor hir.
Rhaglen
Ffair Iechyd Da (9.30yb - 3.00yp)
|
Arddangoswr |
Gwybodaeth am y stondin |
|---|---|
|
Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol |
Dewch i gwrdd â'r tîm a dysgu am yr ystod o bolisïau, adnoddau a rhaglenni sydd â'r nod o hybu iechyd, lles a datblygiad personol y gweithwyr. |
|
Adnodd Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff |
Dewch i gwrdd â’r Tîm Cymorth Gwrth-aflonyddu a Thrais i ddysgu mwy am y system Adrodd a Chymorth i fyfyrwyr a staff - platfform ar-lein diogel a chyfrinachol i roi gwybod am achosion o gamymddwyn rhywiol, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu neu droseddau casineb. |
|
Adran seicoleg: Ymchwil Lles a chymwysiadau |
Dewch i gwrdd ag ymchwilwyr sy'n arbenigo ym maes ymchwil lles. Cymerwch ran neu dysgwch fwy am ein hymchwil sy'n edrych ar ymwybyddiaeth ofalgar a cherdded ym myd natur, gan ddeall ffactorau unigol sy'n ffurfio lles ac Astudiaeth Seicoleg Hydredol Aberystwyth – ASHA. |
|
Adran y Gwyddorau Bywyd: Perfformiad Chwaraeon a Phrofion Iechyd |
Y cyfle i gael asesiad o gyfansoddiad y corff ac i ddysgu am y gwasanaethau masnachol sydd yn cael eu cynnig yn Adeilad Carwyn James, gan cynnwys: Asesiad o’r cynhwysedd aerobig, pennu’r trothwy lactig, asesiad cynhwysfawr o chyfansoddiad y corf a'ch pecyn iechyd. |
|
Adran Gwyddorau Bywyd: Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd |
Dewch i ddarganfod WARU a sut rydym yn cefnogi ymchwil iechyd a lles, o astudiaethau maeth a ffordd o fyw i dreialon clinigol ac asesiadau iechyd. Dysgwch am ein hymchwil cyfredol, beth mae cymryd rhan yn ei olygu, a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi gymryd rhan. |
|
Canolfan Addysg Gofal Iechyd |
Gewch gwrdd â'r tîm nyrsio yn y Brifysgol, sy'n nyrsys cofrestredig o amryw o gefndiroedd arbenigol. Byddant yn hapus i gofnodi eich pwysedd gwaed, rhannu rhai o’n hadnoddau, a sgwrsio am ffyrdd o gefnogi eich gwydnwch a’ch dewisiadau iechyd. |
|
Canolfan Chwaraeon |
Dewch i gwrdd â'r tîm a chael gwybodaeth am yr ystod o ddosbarthiadau, cyfleusterau, a phecynnau aelodaeth sydd ar gael - gydag arddangosiad o feic sbinio a'r cyfle i gymryd rhan mewn heriau ar y diwrnod. |
|
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth |
Dewch i gwrdd â thîm Canolfan y Celfyddydau a chlywed am eu rhaglen amrywiol o arddangosfeydd, perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau cymunedol. |
|
Clwb Bridge Aberystwyth (ABC) |
Mae Clwb Bridge Aberystwyth yn glwb cymunedol, sy'n awyddus i ddenu mwy o aelodau - dewch i ddysgu mwy am y clwb, pryd a ble maen nhw'n cwrdd, sesiynau hyfforddi sydd ar gael, a'r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. |
|
Cymdeithas Gwenynwyr Aberystwyth a'r Cylch (ABKA) |
Gall cadw gwenyn fod yn un o alwedigaethau mwyaf cathartig bywyd: mae’n gyfle i ddod yn agos iawn at natur, a bydd eich gardd ffrwythau a llysiau yn profi peillio heb ei ail. Gallwch gadw gwenyn fel hobi a fydd yn cyfareddu eich teulu a'ch ffrindiau, neu ei drosi o hobi i alwedigaeth (neu fusnes!) gyda chynnyrch yr oedd y Ffaroaid yn ei fwynhau. Mae'r gymuned cadw gwenyn yn gefnogol dros ben i ddechreuwyr. |
|
Cymorth a Lles Myfyrwyr |
Dewch i gwrdd â staff o bob rhan o’r tîmau Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i chynllunio i roi gwybodaeth i staff am faterion sy’n ymwneud â myfyrwyr fel y gallant ddarparu cymorth ystyrlon a gwneud atgyfeiriadau effeithiol, gwybodus, pan fo angen. |
|
Dysgu Cymraeg |
Dewch i gwrdd â staff o’r timoedd Cymorth a Lles Myfyrwyr i glywed am sut mae ein Rhaglen ‘Cefnogi ein Myfyrwyr gyda’n Gilydd’ wedi’i llunio i roi gwybodaeth i’r staff am faterion sy’n berthnasol i’r myfyrwyr fel y gallai’r staff ddarparu cefnogaeth ystyrlon a chyfeirio myfyrwyr ymlaen i wasanaethau eraill pan fo angen, mewn ffordd effeithiol wedi’i seilio ar wybodaeth gadarn. |
|
Dysgu Gydol Oes |
Gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael sy'n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, ac arddangosiadau wrth y stondin trwy gydol y dydd.Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes AM DDIM i holl aelodau staff Prifysgol Aberystwyth - Dod o hyd i gwrs i chi. |
|
Gorsaf bwyd iach |
Taleb 15% o ostyngiad i’r Neuadd Fwyd i'r rhai sy'n dod drawEwch i https://www.aber.ac.uk/cy/hospitality/ am wybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael am fwyd iach, prydau gwerth am arian, hyrwyddiadau ar gynhyrchion di-glwten, alergenau, bwydlenni |
|
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD) |
Gwybodaeth a chymorth i unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol eu hunain neu sy'n poeni am sut mae rhywun arall yn defnyddio cyffuriau a/neu alcohol. |
|
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru |
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig y cyfle i gael ymweliad Diogel ac Iach yn eich cartref. Mae Ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys gwiriadau diogelwch tân ar holl gynnwys y cartref ond bydd hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill a allai fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr eiddo. Bydd y pum prif bwnc ychwanegol yn ymdrin â rhoi'r gorau i ysmygu; Diogelwch yn y cartref; Atal cwympiadau; Ymwybyddiaeth o sgamio; a Mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu |
|
Heddlu Dyfed Powys |
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwasanaethu'r Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys - dros 515,000 o bobl sy’n cynyddu’n sylweddol gyda thwristiaid bob blwyddyn. Dewch i gwrdd a PC Helen Yelland i glywed am y gwaith, ymyrchoedd a'r cymorth sydd ar gael i chi. |
|
Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd |
Cadwch yn ddiogel y gaeaf hwn. Cadwch yn gyfreithlon. Paratowch. Gall tywydd y gaeaf greu amodau gyrru heriol, ond gall ychydig o wiriadau syml leihau eich risg ar y ffordd yn sylweddol. Ewch i'n stondin am gyngor ymarferol. Paratowch eich cerbyd. Amddiffynnwch eich hun. Cyrhaeddwch yn ddiogel. |
|
Parkrun Aberystwyth |
Parkrun Aberystwyth a parkrun ieuenctid Aberystwyth: cyfleoedd i gymryd rhan (cerdded/rhedeg) a gwirfoddoli. |
|
Rhwydweithiau staff |
Dewch i gwrdd ag aelodau o amryw rwydweithiau a grwpiau staff, a chlywed am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau sydd ar ddod, a sut i gymryd rhan. |
|
Tîm Estyn Allan Datblygu Cymunedol Hywel Dda (CDOT) |
Mae CDOT yn darparu gwybodaeth am iechyd sy'n helpu unigolion i wneud dewisiadau am eu hiechyd a'u lles ar sail gwybodaeth gadarn (gan gynnwys rhoi'r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol, imiwneiddio a brechiadau, a bwyta a byw'n iach). |
|
Undebau Llafur |
UCU, UNSAIN ac UNITE - gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, aelodaeth, a'r manteision a'r gwasanaethau. |
Sgyrsiau a gweithdai Iechyd a Lles (9.30yb - 3.00yp)
Rhaglen o sgyrsiau a gweithdai i'w chynnal yn Medrus 2, Medrus 3 ac ar-lein
| Amser |
Sgwrs/ Gweithdy |
Lleoliad |
| 9.30yb - 10.20yb |
Making Work Work for You: Understanding Adjustment Passports | Cofrestrwch yma Rachel Harris, Cynghorydd gweithrediadau AD Bydd y sesiwn hon yn esbonio sut y gall Pasbortau Addasu gefnogi lles staff trwy ddarparu ffordd syml o gofnodi addasiadau yn y gweithle ac anghenion cymorth y cytunwyd arnynt. P'un a ydych chi’n dychwelyd o absenoldeb salwch, yn rheoli cyflwr iechyd, anabledd, neu amgylchiadau eraill, gall Pasbortau Addasu helpu i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddeall, ei gofnodi a'i gynnal dros amser. |
Medrus 3 |
|
10.30yb - 11.20yb |
Gweithdy Celf i Bawb | Cofrestrwch yma (wedi'i gyfyngu i'r 10 cyntaf i gofrestru) Rhys Pugh, Tiwtor Dysgu Gydol Oes Cymerwch seibiant ystyriol o ofynion y diwrnod gwaith gyda'r gweithdy celf pensil ymlaciol, cyfeillgar hwn i ddechreuwyr. Trwy ymarferion darlunio syml, arlliwio ysgafn, ac ystyried siapiau a gweadau, cewch gyfle i arafu, anghofio am bwysau gwaith, a chanolbwyntio ar yr eiliad honno. Nid oes angen unrhyw brofiad artistig - dim ond parodrwydd i arbrofi, bod yn greadigol, a mwynhau ychydig o amser tawel, adferol i chi'ch hun. Mae'r gweithdy hwn yn seiliedig ar y cwrs Art for All a gynigir gan Dysgu Gydol Oes. |
Medrus 2 |
|
10.30yb - 11.20yb |
Creu Eich Pwrs Eich Hun | Cofrestrwch Yma (wedi'i gyfyngu i'r 25 cyntaf i gofrestru) Robyn Carlson, Tiwtor Dysgu Gydol Oes Gweithdy hamddenol, creadigol sy'n rhoi cyfle i staff gymryd seibiant o'u hamserlen brysur, ymlacio a chanolbwyntio ar eu lles. Bydd modd i gyfranogwyr wneud eu pwrs bach eu hunain i ddal darnau arian, gan ymarfer eu creadigrwydd wrth gysylltu â chydweithwyr mewn lleoliad cyfeillgar ac anffurfiol. Bydd pawb yn gadael gyda phwrs wedi'i wneud â llaw, ac ymdeimlad o gyflawniad, tawelwch ac egni adnewyddedig. |
Medrus 3 |
|
10.30yb - 11.20yp |
Lessons from Positive Psychology: The Importance and Function of Positive Emotions | Cofrestrwch yma Anna Udalowska, Tiwtor Dysgu Gydol Oes Pa rôl y mae emosiynau cadarnhaol yn ei chwarae yn ein lles, a sut allwn ni feithrin mwy ohonynt yn ein bywydau bob dydd? Gan dynnu ar ymchwil mewn Seicoleg Gadarnhaol, bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn ystyried swyddogaeth emosiynau cadarnhaol a'u rôl wrth ein helpu i ffynnu. Byddwn yn cyflwyno'r Ddamcaniaeth Ehangu ac Adeiladu i ddeall sut y gall emosiynau cadarnhaol ehangu ein meddwl a'n helpu i adeiladu adnoddau seicolegol parhaol. Byddwn hefyd yn ystyried ymyriadau seicoleg gadarnhaol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cynyddu emosiynau cadarnhaol ac yn trafod yr hyn y mae ymchwil yn ei ddweud wrthym am y cydbwysedd rhwng emosiynau cadarnhaol a negyddol sy'n cefnogi lles. Mae'r gweithdy hwn yn seiliedig ar y cwrs Applied Positive Psychology a gynigir gan Dysgu Gydol Oes. |
Ar-lein |
| 1.00yp - 2.00yp |
Taith Cerdded Lles | Cofrestrwch yma Dewch i ymuno â Chlwb Cerdded y Brifysgol am daith gerdded (tua 45 munud) drwy’r campws a'r coed. Mae’n gyfle gwych i ddianc o’r ddesg, arsylwi ar fyd natur, a sgwrsio ag eraill!
Fe welwch ddyddiadau digwyddiadau’r dyfodol a’r llwybrau cerdded diweddaraf ar safle y Clwb Cerdded ar Teams (dwy daith gerdded y mis ar gampws Penglais a champws Gogerddan). |
Campws Penglais |
|
2.10yp - 3.00yp |
The Role of Self Compassion in the workplace | Cofrestrwch yma Jenny Smith - Tiwtor Dysgu Gydol Oes (Seicoleg) Mae hunandosturi yn cael ei gydnabod fwyfwy fel adnodd seicolegol hanfodol yn y gweithle. Gall gefnogi ein lles trwy adeiladu gwir wydnwch a helpu i liniaru ein hymateb i straen o ran y pwysau, y gofynion a’r ansicrwydd niferus yr ydym yn eu hwynebu. Bydd y gweithdy rhagarweiniol hwn yn cynnig ystyriaeth brofiadol ac ymarferol o sut i ddatblygu'r dull hwn o ddod yn fwy sylwgar, caredig ac ymatebol i ni ein hunain. |
Medrus 3 |
Gwirfoddoli i blannu coed a llwyni (10.30yb & 11.30yb)
- 10.30yb - 11.30yb | Cofrestru'ch diddordeb
- 11.30yb - 12.30yp | Cofrestru’ch diddordeb
Yn rhan o ddiwrnod Iechyd a Lles y Staff rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn plannu coed a llwyni i greu ardal cyfoethogi bioamrywiaeth newydd wrth ymyl y Ganolfan Chwaraeon. Mae’r gwaith hwn yn rhan o uchelgais ehangach y Brifysgol i ddiogelu a chyfoethogi bioamrywiaeth ym mhob rhan o’n hystad, drwy greu perthi cynhenid newydd, plannu coed a chreu mwy o fannau cyfeillgar i beillwyr sydd mor hygyrch â phosib fel y bydd pobl yn gallu cael budd o’r cysywllt agos â byd natur. Mae perthi a choetiroedd newydd yn darparu adnoddau hanfodol i famaliaid, adar a phryfed. Yn ogystal â bod yn gynefin pwysig ynddynt eu hunain, maent hefyd yn goridorau sy’n galluogi bywyd gwyllt i symud rhwng cynefinoedd ynysig.
Bydd 2 sesiwn blannu ar y diwrnod – pob un yn para rhyw awr. I gofrestru os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r naill sesiwn neu’r llall, llenwch y ffurflen cofrestru hon.
Taith Cerdded Lles (1.00yp - 2.00yp)
Taith Cerdded Lles (1.00yp - 2.00yp) | Cofrestrwch yma
Dewch i ymuno â Chlwb Cerdded y Brifysgol am daith gerdded (tua 45 munud) drwy’r campws a'r coed. Mae’n gyfle gwych i ddianc o’r ddesg, arsylwi ar fyd natur, a sgwrsio ag eraill!
- Byddwn yn cyfarfod yn Nerbynfa'r Brifysgol (Campws Penglais) am 1.00 yp
- yr unig ystyriaethau wrth gerdded yw bod pawb yn gwisgo esgidiau addas, dillad addas i’r dirwedd a'r tywydd, a chadw'r cyflymder i gyd-fynd â'r cerddwr arafaf.
- Opsiwn i godi sbwriel ar y daith
Fe welwch ddyddiadau digwyddiadau’r dyfodol a’r llwybrau cerdded diweddaraf ar safle y Clwb Cerdded ar Teams (dwy daith gerdded y mis ar gampws Penglais a champws Gogerddan).
Cariad.Dog (9.30yb - 3.00yp)
Dewch i gwrdd â Cariad.Dog - cŵn cymorth a'u perchnogion gwirfoddol - lleddfu straen wrth gael dêt 'da ci!
Mae Cariad.Dog yn creu cysylltiadau cydsyniol rhwng bodau dynol a chŵn er lles i'w gilydd.
Mi fydd Cariad.Dog yn y Ffair Iechyd Da ar yr amserau canlynol:
- 9.30yb - 11.00yb: Thor a Jo
- 11.00yb - 12.30yp: Ash a Charlotte
- 1.30yp - 3.00yp: Milo a Jackie

Cyffwrdd â Choeden Drofannol (10.00yb i 3.00yp)
Cyffwrdd â Choeden Drofannol (10.00yb i 3.00yp) | Cofrestrwch yma
Wyddoch chi fod gardd drofannol gudd ar Rhiw Penglais?
Cymerwch egwyl fach ar Ddydd Lles a chamu mewn i wres ein tŷ gwydr trofannol. Darganfyddwch goed banana, coco a afocado, archwiliwch ein casgliad o blanhigion anarferol, a dysgwch ychydig am y rhywogaethau sy’n tyfu’n union ar eich carreg drws.
Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod ein oriau agor: 10yb i 3yp.
Sut i ddod o hyd i ni: Cerddwch i fyny’r rhodfa sydd ar draws y campws tuag at Goedwig Penglais, cymerwch y troiad cyntaf i’r dde a dilynwch yr arwyddion.
