Llysgenhadon
Manteision bod yn lysgennad
- Ennill profiad gwaith gwerthfawr
- Dewis y math o waith yr wyt am ei wneud a phryd
- Datblygu amryw o sgiliau defnyddiol – siarad cyhoeddus, arweinyddiaeth, trefnu digwyddiadau a gweithio mewn tîm
- Cael mewnwelediad defnyddiol i fyd Addysg Uwch
- Rhwydweithio a chael hwyl!
Beth mae llysgennad yn ei wneud?
Fel llysgennad, fe fyddi di’n chwarae rôl hanfodol wrth gynorthwyo ymwelwyr gyda phob agwedd ar eu hymweliad i’r Brifysgol drwy gynnig cefnogaeth, anogaeth a chyngor.
Ar y campws:
- Cynorthwyo mewn Diwrnodau Agored, Diwrnod Ymweld ac unrhyw weithgareddau/digwyddiadau eraill sy’n digwydd ar y campws
- Arwain Teithiau Campws
- Cwrdd a chyfarth ymwelwyr
- Cynrychioli mewn ysgolion, colegau a ffeiriau Addysg Uwch
Ar-lein:
- Diwrnodau Agored Ar-lein / Digwyddiadau Ymweld i Ymgeiswyr
- Weminarau
- Student Room
- Sgwrs Fyw – cynnig gwybodaeth a chyngor am fywyd myfyriwr ac Aberystwyth
Sut i wneud cais?
Am ragor o wybodaeth am y broses ymgeisio i fod yn Llysgennad Myfyrwyr, cysylltwch â: llysgenhadon@aber.ac.uk
Gwybodaeth i Lysgenhadon Cyfredol
Os wyt ti'n lysgenad cyfredol, dilyna'r ddolen isod.
Cysylltu
Os oes gennyt unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â bod yn lysgennad neu am y cynllun, cysyllta gyda llysgenhadon@aber.ac.uk