17. Sut y caiff canlyniadau'r HGM eu cyfrifo?

Trafodir yr Holiaduron Gwerthuso Modiwlau yn ôl sgôr y ganran sy'n cytuno.

Down at y ganran sy'n cytuno drwy gyfuno'r ymatebion sydd â marc "4" a "5" a'u rhannu â swm yr holl ymatebion a roddwyd i'r datganiad. 

Ni chaiff ymatebion 'Nid yw'n berthnasol' ("0") eu cynnwys. Trinnir ymatebion a adawyd yn wag hefyd fel rhai ‘Nid yw’n berthnasol’ ac felly ni chânt eu cynnwys wrth gyfrifo. Yn unol â hynny, rhoddir “0” am unrhyw ymateb a adawyd yn wag wrth gyfrifo’r ganran sy’n cytuno, a hynny er mwyn ei drin fel ateb 'Nid yw'n berthnasol'. 

Cyfrifir y ganran sy'n cytuno fesul modiwl a datganiad unigol, fel y disgrifir yn y tabl isod:

Graddfa Bodlonrwydd

Mae'r staff yn dda am esbonio pethau

Cyfrifiad

(5) Cyfanswm 'Cytuno'n bendant'

65

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "5" - Cytuno'n bendant

(4) Cyfanswm 'Cytuno ar y cyfan'

72

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "4" - Cytuno ar y cyfan

(3) Cyfanswm 'Ddim yn cytuno nac yn anghytuno'

10

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "3" - Ddim y cytuno nac yn anghytuno

(2) Cyfanswm 'Anghytuno ar y cyfan'

2

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "4" - Anghytuno ar y cyfan

(2) Cyfanswm 'Anghytuno'n bendant'

0

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "1" - Anghytuno'n bendant

(0) Cyfanswm 'Nid yw'n berthnasol'

2

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "0" - Nid yw'n berthnasol

Nifer yr ymatebwyr i bob cwestiwn

149

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc 1, 2, 3, 4 neu 5

Graddfa Bodlonrwydd Myfyrwyr

91.9%

Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc 4 neu 5 wedi'i rannu â chyfanswm yr ymatebion sydd â marc 1, 2, 3, 4 neu 5

 

Yn yr enghraifft uchod, y cyfrifiad yw 137 (65 + 72) / 149 (65 + 72 + 10 + 2), felly nid yw'n cynnwys y 2 ymateb ychwanegol sydd â marc 'Nid yw'n berthnasol'. Felly, wrth gyfrifo ar gyfer pob un o’r cwestiynau ar raddfa Likert, yn aml fe ddown at y canlyniad drwy rannu â nifer wahanol o ymatebion bob tro. 

Os penderfynwch chi nad yw cwestiwn yn berthnasol mewn gwirionedd i'ch modiwl, dewiswch 'Nid yw'n berthnasol' gan y bydd ateb 'Ddim yn cytuno nac yn anghytuno' yn cael ei ystyried yn ateb negyddol, nid niwtral.