Arolygon

Ar-lein Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM)

Yn ystod y flwyddyn rydym yn cynnal nifer o arolygon i gasglu cymaint o adborth gan fyfyrwyr â phosibl.

Arolwg ac Brofiad Myfyrwyr (ABM)

Bob semester, gofynnwn i fyfyrwyr gloriannu’r modiwlau y maen nhw yn eu hastudio. Rydym yn gwneud hynny trwy holiadur ar-lein, ac enw’r broses yw’r 'Arolwg ac Brofiad Myfyrwyr' (ABM).  Bydd yr ABM yn galluogi cydgysylltwyr modiwlau i ddeall yn well y gwelliannau y gellir eu gwneud i wella profiad y myfyrwyr sy’n dilyn eu modiwlau.

Mae’r ABM yn holi am eich profiadau ar fodiwl penodol ar eich cwrs. Mae’n gyfle i leisio eich barn, a’n helpu ni i lunio a gwella profiad myfyrwyr. Mae’r ABM yn cynnwys cwestiynau craidd am agweddau amrywiol ar fod yn fyfyriwr, yn cynnwys:

  • Y dysgu ar fy modiwl
  • Cyfleoedd dysgu
  • Marcio ac asesu
  • Cymorth academaidd
  • Trefn a rheoli
  • Adnoddau dysgu
  • Llais y myfyrwyr
  • Boddhad cyffredinol

Ar ben hynny, mae cyfle i gydgysylltydd y modiwl ychwanegu hyd at bedwar cwestiwn ychwanegol sy’n berthnasol i’r modiwl penodol hwnnw.

Sut i Wneud Eich Adborth yn Ddefnyddiol

Gweler ein canllaw i ddarparu adborth defnyddiol yma: Canllaw daparu adborth defnyddiol

Rhagor o wybodaeth

Arolwg ac Brofiad Myfyrwyr (ABM)

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF)

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon eu byd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2018.

Dengys canlyniadau diweddaraf yr ACF fod bodlonrwydd cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 90% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 83%.

Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn perfformio’n well na’r sector yn y DU ac yng Nghymru ym mhob un o'r naw maes mae'r Arolwg yn trafod.

Rhagor o wybodaeth

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

ACF Fideo