Mr Charles Lloyd Harvey

Mr Charles Lloyd Harvey

Cynorthwyydd Personol y Weithrediaeth

Swyddfa'r Is-Ganghellor

Manylion Cyswllt

Proffil

Cyfrifoldebau

Mae tîm Swyddfa'r Is-Ganghellor yn gweithio ar y cyd i ddarparu cymorth ar lefel uchel i Weithrediaeth y Brifysgol yn gyffredinol. Mae Charles yn rhoi cymorth gweinyddol uwch penodol ar gyfer Simon Crick a yr Athro Angela Hatton. Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys: rheoli a chydlynu ffrydiau gwaith; trefnu a mynychu cyfarfodydd a chymryd cofnodion; sicrhau bod camau digonol, effeithiol a phriodol yn cael eu cymryd i ymdrin â gwaith sy'n dod i mewn; paratoi llythyrau, memos, papurau a deunydd ysgrifenedig arall; darllen proflenni a gwirio dogfennau i sicrhau cywirdeb; cydgysylltu â chynrychiolwyr ledled y Brifysgol ac aelodau o sefydliadau allanol; cyfrannu at y gwaith o reoli digwyddiadau (e.e. Ciniawau, Derbyniadau, Seremoniau Gwobrwyo a.y.b.) a chyflawni tasgau penodol eraill a gwaith prosiect.

Bywgraffiad

Ymunodd Charles â Swyddfa'r Is-Ganghellor yn Chwefror 2012 fel Cynorthwy-ydd Personol Gweinyddol. Mae Charles wedi bod mewn swydd yn Lambert Smith Hampton yng Nghaerdydd lle roedd yn gweithio fel Arolygwr Eiddo Masnachol Graddedig, ac yn Wavehill, cwmni gwerthuso ac ymchwil cymdeithasol blaenllaw yn Aberaeron lle roedd yn gweithio fel Ymgynghorydd Ymchwil. Mae Charles wedi gweithio hefyd yn Llywodraeth Cymru, lle roedd yn darparu cefnogaeth i nifer o adrannau Materion Gwledig.