Swyddfa'r Is-Ganghellor

"Croeso i Brifysgol Aberystwyth!"

"Ers ei sefydlu, darparu addysg yw hanfod Prifysgol Aberystwyth ac, yn hollbwysig, darparu addysg i bawb.  Rydym yn deall yr effaith gadarnhaol sylfaenol y gall prifysgol ei chael ar bobl ac ar y gymdeithas gyfan.  Prifysgol a arweinir gan ymchwil ydym ni, ac rydym yn ymgymryd â'n gweithgareddau ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth er budd cymunedau ledled y byd. A ninnau’n cael cydnabyddiaeth gyson am y profiad a'r dysgu rhagorol a roddwn i fyfyrwyr, ymdrechwn i ddarparu'r addysg orau bosibl i'n myfyrwyr er mwyn eu paratoi am gamau nesaf eu bywydau. Mae Aber yn gartref i gymuned academaidd fywiog mewn rhan brydferth o'r byd, gan roi ysbrydoliaeth i ni ar gyfer ein gwaith yn ogystal â chyfleoedd i ymlacio a mwynhau bywyd i'r eithaf."

Yr Athro Jon Timmis
Is-Ganghellor