CyrraeddAber - Cyrraedd ac Ymgartrefu

Wedi cyrraedd Aber, dewch i weld y tasgau hanfodol y bydd angen i chi eu cwblhau yn y diwrnodau cyntaf drwy restr wirio wedi'i theilwra a fideos fer gan ein myfyrwyr presennol, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am ymuno â'ch cymuned newydd yn y diwrnodau cyntaf.

Mae'r rhestrau gwirio a'r fideos byr wedi'u cynllunio i wneud pob cam o'ch taith wrth ymuno ag Aberystwyth mor esmwyth â phosibl.

Eich Rhestr Wirio CyrraeddAber – Cyrraedd ac Ymgartrefu

Mae cychwyn mewn prifysgol newydd yn amser cyffrous a ‘da ni am sicrhau eich bod yn ymgartrefu cyn gynted a phosib. Mae ffrindiau newydd i'w gwneud, llefydd newydd i'w darganfod a chyfleoedd lu i ddatblygu diddordebau newydd hyd yn oed yn y dyddiau cyntaf.

Cyn cwblhau'r tasgau isod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r rhestr wirio ‘CynAber – Cyn Cyrraedd’.

Dilynwch y canllaw cam wrth gam fer hwn i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r hyn y mae angen i chi ei wneud wrth gyrraedd, a cliciwch ar y ddolen islaw i gael gwybodaeth fanylach ar gyfer pob cam o'r daith.

Er gwybodaeth, mae'r blychau sydd wedi eu lliwio mewn COCH yn cael eu hystyried yn dasgau hanfodol a'r rheini yn LAS yn cael eu hystyried yn dasgau argymelledig.

Gwelwch y Rhestr Wirio CyrraeddAber manylach yma

3 wythnos cyn i chi gyrraedd y campws

Cofiwch eich Dyddiadau CyrraeddAber…

Cofiwch y dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber a bydd Llety'r Brifysgol ar gael i symud i mewn o ddechrau y Contract Meddiannaeth Llety.

Myfyrwyr yn cyrraedd y llety Dyddiadau’r Tymor
1 diwrnod cyn i chi gyrraedd y campws

Cyrraedd Aber o'ch Cartref

Os ydych yn symud i lety ar y campws, dilynwch y cyfarwyddiadau cyrraedd gan y Tîm Llety . P'un a yw mewn car, trên neu ddulliau eraill, darganfyddwch eich opsiynau ar sut i gyrraedd Aber.

Myfyriwr yn cyrraedd ar fws Teithio i Aberystwyth
Diwrnod Cyrraedd y Campws

Symud mewn i’ch Llety

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am gasglu eich allwedd a'ch Cerdyn Aber o'r rhestr wirio fanwl

Myfyrwyr gyda bagiau Symud i Mewn
Diwrnod Cyrraedd y Campws

Cysylltu â Wi-Fi campws

Pan gyrhaeddwch y campws gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â phrif rwydwaith diwifr y brifysgol, o'r enw eduroam. Gallwch wedyn gadw mewn cysylltiad lle bynnag yr ydych ar y campws.

Myfyrwyr yn edrych ar ffon Cysylltu â’r Wi-Fi
Wythnos Croeso (Dydd Mercher 21 Ionawr – Dydd Gwener 23 Ionawr 2026)

Cwrdd â'ch adran a chymryd rhan mewn gweithgareddau Wythnos Croeso

Mae’r Sesiwn Sefydlu Academaidd yn gyflwyniad pwysig i'r cwrs a'r pwnc, cyn i'r gwaith ddechrau. Mae hyn yn cael ei gynnal dros sawl diwrnod yn ystod yr Wythnos Groeso.

I gael gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau yn eich adran, ewch i'r dudalen hon a dewiswch eich cwrs, a cadwch lygad ar eich Cynllunydd Croesawu ac Ymgartrefu.

Baner Prifysgol Aberystwyth
Diwrnodau cyntaf wedi cyrraedd

Cwblhau eich Cofrestriad Cwrs

Cyn i chi gael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd rhaid i chi gwblhau’r broses cofrestru. Rhaid i chi ddewis modiwlau, os yw’n ofynnol a chwblhau’r cofrestriad ar-lein yn eich Cofnod Myfyriwr. Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn y ‘Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru’.

Llyfrgell Hugh Owen
Yn ystod y diwrnodau cyntaf

Cwblhewch CroesoAber : Her y Campws

Cymerwch ran yn Her y Campws sy’n ffordd ddigidol rhyngweithiol a hunan-gyfeiriedig i archwilio ein campws. Gallwch ddod i adnabod y campws a'ch ffrindiau newydd ychydig yn well trwy wneud hyn fel grŵp hyd yn oed! I gael y gorau o'r daith, cwblhewch yr her efo pobol eraill, yn ystod y dydd ac os bydd hi'n bwrw glaw, defnyddiwch ymbarel!  

Mae'r daith hon yn defnyddio ap o'r enw Actionbound. I ddechrau, lawrlwythwch yr ap ar gyfer iOS -Cyswllt neu Android -Cyswllt ac yna ewch i'r dudalen wedi ei nodi islaw. 

Campws Penglais Her y Campws
Yn ystod y diwrnodau cyntaf

Hyfforddiant caniatâd ar-lein

Mae Aberystwyth yn brifysgol ddiogel, deg a chynhwysol. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein campws yn le mwy diogel. Nid oes goddefgarwch i aflonyddu, unrhyw droseddau casineb, cam-drin ac ymddygiad gwylwyr. Drwy ddysgu mwy am ganiatâd a chwblhau'r hyfforddiant, helpwch ni i gadw Aberystwyth yn ddiogel.

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Hyfforddiant Caniatâd
Yn ystod y diwrnodau cyntaf

Cofrestru gyda meddyg

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu lleol. Rydym am sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i’ch helpu i gofrestru gyda meddyg teulu. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Myfyrwyr yn y dref Cofrestrwch ar-lein
Yn ystod yr wythnosau cyntaf

Ymweld â Ffair Reffreshars

Cynhelir y digwyddiad yn Undeb Aber dros y dyddiau canlynol:

Dydd Mawrth 27 a Dydd Mercher 28 Ionawr 2025.

Mae Ffair Reffreshars, a drefnir gan Undeb Aberystwyth (Undeb y Myfyrwyr) yn arddangos popeth sydd ar gynnig i fyfyrwyr. O gymdeithasau, clybiau chwaraeon a digwyddiadau, i ostyngiadau myfyrwyr gan frandiau mawr a busnesau lleol.

Myfyrwyr yng Nghanolfan y Celfyddydau
Yn ystod yr wythnosau cyntaf

Help yn ystod eich Wythnos Cyrraedd Aber...

Bydd staff wrth law drwy gydol yr holl gyfnodau cyrraedd ac mae gennym restr o gysylltiadau allweddol

Arwydd 'Hola Fi' Manylion Cyswllt Allweddol
Yn ystod yr wythnosau cyntaf

Gwybodaeth i bobl sy'n cyrraedd y tu allan i'r Wythnos Groeso

Rydym yn eich annog yn gryf i gyrraedd Aber mewn pryd ar gyfer dyddiadau allweddol CyrraeddAber i wneud y mwyaf o'r gweithgareddau ymgartrefu. Rydym yn deal fodd bynnag bod yna nifer o resymau pam nad yw hyn yn bosibl.

Ewch i’r rhestr wirio manwl yma am gamau pellach ynghylch cyrraedd tu allan i'r Wythnos Groeso.

Myfyrwyr ar y campws Cyrraedd tu allan i'r Wythnos Groeso