CaruAber – Dod i adnabod dy Brifysgol
Ein Themâu CaruAber – Dod i adnabod dy Brifysgol a fydd yn cael eu cyflwyno bob wythnos am eich saith wythnos gyntaf yn y Brifysgol yw:
- Ymgartrefu Aber
- Astudio Aber
- Cefnogaeth a Lles Aber
- Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber
- Amgylchedd a Chynaliadwyedd Aber
- Sgiliau Aber
- Cymuned a Diwylliant Aber








-Slab.png)
Ymgartrefu Aber
Dyma dy Le i Fyw Bywyd Aber!
Gydag Ymgartrefu Aber, cei gyfle i wneud ffrindiau, i deimlo'n gartrefol ac i ymgyfarwyddo â'r campws. Croeso i Aber!
-Slab.png)
Astudio Aber
Dyma dy Le i Ddysgu ac i Ddatblygu!
Gyda Astudio Aber, cei ddatblygu arferion da wrth astudio, ac i ymgyfarwyddo â gwasanaethau’r llyfrgell a chyfleoedd dysgu gydol oes.
-Slab.png)
Cefnogaeth a Lles Aber
Dyma dy Le i Ffynnu ac i gael Cefnogaeth!
Mae Cefnogaeth a Lles Aber yn dy helpu i ffynnu ac i ddod o hyd i'r cymorth y gall ein gwasanaethau ei ddarparu. Mae cefnogaeth ar gael pan fyddi di ei hangen. Darganfydda mwy o wybodaeth yma am Wasanaethau Myfyrwyr, Chwaraeon Aber ac UndebAber.
-Slab.png)
Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber
Dyma dy Le i Brofi Bywyd Go Iawn!
Mae Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber yn galluogi iti ddatblygu ar dy orau. Wrth iti astudio yma, cei wybod am ieithoedd newydd, am gyfleoedd ymarferol i wella dy gyflogadwyedd ac am brofiadau yn y byd mawr y tu hwnt i Aber.

Amgylchedd a Chynaliadwyedd Aber
Dyma dy Le i Wneud Gwahaniaeth!
Mae Amgylchedd a Chynaliadwyedd Aber yn dwyn ynghyd yr holl waith amrywiol a phellgyrhaeddol ry'n ni'n ei wneud ym maes cynaliadwyedd. Tyrd i fod yn rhan o'r gwaith ac i ddathlu ein prosiectau cynaliadwyedd ym meysydd bioamrywiaeth, trafnidiaeth a llawer mwy.
.jpg)
Sgiliau Aber
Dyma dy Le i Serennu'n Ddigidol!
Mae Sgiliau Aber yn dy helpu i ehangu, i archwilio ac i wella dy sgiliau digidol fel myfyriwr yma yn Aber. Cei ddysgu sut i ddefnyddio offer chwilio digidol, i sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial er gwell.
-Slab.png)
Cymuned a Diwylliant Aber
Dyma dy Le i gael Blas ar Fyw!
Gyda Chymuned a Diwylliant Aber, cei fod yn rhan o gymuned a ddaw mewn dim o dro'n gartref newydd. Mae Aber a'r cyffiniau'n llawn i'r ymylon o brofiadau diwylliannol rhyfeddol. Nid lle gwych i ddysgu'n unig yw Aber, ond cymuned fyw a llawn bywyd ac amrywiaeth.
Yn barod i ddod i adnabod y Brifysgol

Dy Gampws
Mae gennym gampws bywiog gyda golygfeydd godidog o Fae Ceredigion. Cyfoethogir bywyd y myfyrwyr ymhellach gan Undeb Myfyrwyr bywiog, sy’n rhedeg dros 100 o glybiau a chymdeithasau gwahanol. Mae gennym ein Canolfan Chwaraeon ein hunain ar y campws gyda campfa newydd sbon efo 130 o orsafoedd i bwll nofio, llain 3G, pwll nofio, a hyd yn oed saunarium nordig. Ein Canolfan Celfyddydau ar y campws yw un o’r mwyaf yn y DU gyda theatr, mannau arddangos a pherfformio yn ogystal â sinema boutique, bar a chaffis. Darganfyddwch fwy am yr holl leoliadau hyn yn ogystal â chaffis a bwytai’r campws, llyfrgelloedd, preswylfeydd a llawer mwy.

Dy Wasanaethau Myfyrwyr
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yma i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar dy amser ym Mhrifysgol Aberystwyth a gwneud y mwyaf o dy gyfleoedd ar ôl graddio. Gan weithio ar ar draws y Brifysgol ac efo gwasanaethau allanol, rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac adnoddau i bob myfyriwr, pa bynnag yr her yr wyt yn ei hwynebu.
Mae ein timau cyfeillgar ar gael drwy gydol y flwyddyn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, i roi cyngor a chefnogaeth ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys gofynion hygyrchedd, anghenion lles, cyngor ariannol, cymorth fisa a chanllawiau gyrfa.

Dy Ddysgu Gydol Oes
Sefwch ar wahân i’r rhelyw gyda'n Hatgyfnerthwyr Graddau rhad ac am ddim
Ochr yn ochr â'ch rhaglen radd, gallwch ddilyn un cwrs byr y tymor, yn rhad ac am ddim, mewn ystod eang o bynciau gan gynnwys: Ieithoedd, Datblygiad Proffesiynol, Ecoleg, Celf a Dylunio, Ysgrifennu Creadigol, Archaeoleg, Achyddiaeth, Hanes, Darlunio Hanes Naturiol.
Astudiwch gyrsiau sy'n atgyfnerthu eich gradd, dilynwch bwnc rydych chi'n angerddol amdano, gweithiwch tuag at gymhwyster neu'n syml rhowch gynnig ar rywbeth newydd a dysgu am hwyl!
Mae ein cyrsiau'n dechrau ar ddechrau mis Hydref ac maent bob amser yn boblogaidd felly cofrestrwch yn fuan.

Dy Borth SgiliauAber
Mae SgiliauAber yn blatfform dwyieithog canolog sy'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, cyngor, adnoddau a chefnogaeth sgiliau, oll wedi'u lleoli'n gyfleus mewn un lle. Mae'r platfform yn gweithredu fel siop-un-stop lle mae hawl i ti gael mynediad at wybodaeth a deunyddiau amrywiol i wella dy sgiliau academaidd, astudio a phroffesiynol. P'un ai'n chwilio am cymorth gydag ysgrifennu aseiniadau, mireinio galluoedd mathemategol ac ystadegol, neu gymryd rhan mewn gweithdai sy'n canolbwyntio ar arferion academaidd da, mae SgiliauAber yn cynnig gofod hawdd ei ddefnyddio i ti fel myfyriwr i ddatblygu a gwella agweddau amrywiol ar dy set sgiliau.
Gan weithio ar y cyd ag adrannau gwasanaethau sgiliau eraill y Brifysgol, mae SgiliauAber yn ymroddedig i feithrin twf personol ac academaidd, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr fel ti yr adnoddau a'r gefnogaeth angenrheidiol i ragori yn dy hastudiaethau a thu hwnt.

Dy Wasanaeth Gyrfaoedd
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu gwasanaeth rhagorol a chefnogol sy'n rhoi myfyrwyr a graddedigion mewn sefyllfa i wireddu eu gobeithion, gwneud dewisiadau bywyd yn wybodus, a chyflawni eu potensial.
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yma i'ch helpu i ddeall sut y gallwch wneud eich gradd prifysgol, a’r holl brofiadau sydd ar gael i chi tra byddwch yn y Brifysgol, gyfrif tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.