CHWARAEON ABER

Pause video

Dyma DY Le

Chwaraeon Aber yw DY LE i symud ac i gadw’n heini ym mha bynnag ffordd sy'n addas i ti.

Mae ein gofodau wedi'u cynllunio'n gyfan gwbl i'th ysgogi a'th ysbrydoli i symud.

DY DDOSBARTHIADAU

Dy Ddosbarthiadau. Dy Gymuned.

Gyda 50 o ddosbarthiadau i ddewis ohonynt, mae rhywbeth at ddant pawb yn Chwaraeon Aber. Mae ein rhaglen wedi'i rhannu'n Meddwl a Chorff, Cryfder a Chardio, a Dosbarthiadau Cardio a Dygnwch, gan ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i weithgareddau sy'n cyd-fynd â dy ddiddordebau a nodau ffitrwydd. Mae pob dosbarth yn gynhwysol ac yn addas ar gyfer ystod o alluoedd, gydag opsiynau i addasu ymarferion lle bo angen.

DY Opsiynau Dosbarth

DY LEOEDD

Edrycha ar dy Leoedd

O ardaloedd ffitrwydd arbenigol a champfa o'r radd flaenaf yn ein Cromen Chwaraeon Aber i bwll nofio, sawna, wal ddringo, cyrtiau chwaraeon, trac rhedeg a chae 3G, mae Chwaraeon Aber yn cynnig amrywiaeth unigryw o fannau i dy helpu i gadw'n heini, hyfforddi, cystadlu ac ymlacio.

Edrycha ar DY Leoedd

DY ORIAU AGOR A GWYBODAETH GYSWLLT

Dy Ymweliad

Mae cynllunio eich ymweliad â Chwaraeon Aber yn hawdd gyda'n horiau agor a manylion cyswllt cyfredol. P'un a ydych chi'n mynychu dosbarth, yn defnyddio'r gampfa, yn nofio, neu'n chwilio am fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau a'n haelodaeth, mae ein tîm yma i helpu.

DY Oriau Agor

Dilynwch ni:

Facebook Instagram YouTube