Paratoi ar gyfer y brifysgol gyda ni yn Aber

Ym mlog Cyn Cyrraedd Aber yr wythnos hon, mae myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, Lilia Mo, yn trafod rhai awgrymiadau ar baratoi ar gyfer y brifysgol gyda ni yn Aber: 

Llongyfarchiadau a chroeso i Aberystwyth! Er mwyn paratoi ar gyfer cyrraedd, mae rhai tasgau y bydd angen i chi eu cwblhau. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud cais am lety, ysgogi eich cyfrif TG, gwneud cais am eich Cerdyn Aber, trefnu eich Cyllid Myfyrwyr, a llawer mwy! Gellir dod o hyd i restr fanwl o'r holl dasgau y bydd angen i chi eu cwblhau ar y dudalen we CynAber  : Croeso , Prifysgol Aberystwyth  

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, mae yna fwy o bethau y mae angen i chi eu gwneud, gan gynnwys ceisiadau am fisa. Ceir mwy o wybodaeth ar y weddalen Fisas a Mewnfudo  : Gwasanaethau i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth  Efallai y byddai’n syniad da ystyried a oes arnoch angen unrhyw gymorth gyda’r Saesneg. Os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o hyn, gallwch gael mynediad at gymorth drwy dudalen we’r Ganolfan Saesneg Ryngwladol : Prifysgol Aberystwyth 

Os oes angen unrhyw gymorth anabledd neu ddysgu arnoch, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r tîm Hygyrchedd cyn i chi gyrraedd. Gallwch ddefnyddio tudalen we’r Tîm hygyrchedd a chynhwysiant  : Gwasanaethau Myfyrwyr , Prifysgol Aberystwyth i gael rhagor o wybodaeth, neu e-bostiwch hygyrchedd@aber.ac.uk i wneud hyn. 

Gwiriwch eich negeseuon e-bost fel nad ydych chi'n colli unrhyw beth pwysig. Bydd angen eich cyfeiriad e-bost personol a'ch cyfrif myfyriwr newydd arnoch er mwyn i chi gael yr wybodaeth bwysig ddiweddaraf. Defnyddiwch y Porth Myfyrwyr - Hafan a Hyfforddiant Ymsefydlu Myfyrwyr a Chydsyniad Ar-lein  : Croeso , Prifysgol Aberystwyth i ddod i adnabod y gwasanaethau a'r wybodaeth sydd ar gael i chi.  

Hefyd gwnewch yn siŵr bod eich brechiadau yn gyfredol. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, mae hi hefyd yn syniad da i ymgynghori â'ch meddyg cartref ynglŷn â pha frechiadau sy'n cael eu hargymell ar gyfer byw yn y DU. Mae'n bwysig cofrestru â Meddyg Teulu yn Aberystwyth. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael ar y dudalen we Iechyd Myfyrwyr  : Gwasanaethau Myfyrwyr , Prifysgol Aberystwyth  

Yn ystod rhag-gofrestru, gallwch wneud eich dewisiadau modiwl. Os hoffech ddysgu mwy am bob modiwl, mae gan y dudalen we Modiwlau  : Prifysgol Aberystwyth nodwedd chwilio defnyddiol lle gallwch chwilio am enw'r modiwl neu'r cod, a darganfod gwybodaeth am y cynnwys, asesiadau a mwy ar gyfer pob modiwl. 

Ar ôl i chi wneud popeth uchod, gallwch ddechrau pacio! Cofiwch na all eich llety prifysgol ffitio popeth, felly paciwch yn ddoeth. Mae hefyd yn syniad da gwirio pa declynnau ac offer sydd wedi'u cynnwys yn eich ystafell neu fflat fel nad ydych chi'n dyblygu eitemau.  

Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, gellir dod o hyd i ddogfennau a phresgripsiynau pwysig yn ogystal ag eitemau eraill ar y rhestr wirio ddefnyddiol hon CynAber  : Croeso , Prifysgol Aberystwyth o dan yr adran 'Dechrau pacio'.  

Cofiwch gynllunio eich taith mewn da bryd! Mae’r dudalen we Teithio i Aberystwyth  : Darganfyddwch Aberystwyth , Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig rhagor o wybodaeth. 

Mae paratoi i symud i'r brifysgol yn gam mawr mewn bywyd. Mae'r tudalennau gwe a'r gwasanaethau yn y blog hwn yma i'ch helpu gyda'r broses. Cofiwch ei bod hi’n gwbl arferol i deimlo’n bryderus, mae pawb yn yr un cwch â chi!  

Fy nghyngor gorau yn y cyfnod cyn cyrraedd yw estyn allan at eich cyd-fyfyrwyr newydd a dod i adnabod eich gilydd cyn i chi gyrraedd Aber. Mae yna hefyd grwpiau pwrpasol ar y cyfryngau cymdeithasol (e.e. Facebook) ar gyfer myfyrwyr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth y gallwch ymuno â nhw i wneud ffrindiau.  

Fel myfyriwr newydd, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael i'ch helpu i ymgartrefu i fywyd yn y brifysgol. Bydd gan y tudalennau gwe Croeso  : Prifysgol Aberystwyth wybodaeth am CroesoAber 2025, a fydd yn cynnal llawer o weithgareddau hwyliog i'ch helpu i ddod i adnabod y brifysgol a chwrdd â phobl newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n mentro ac yn gwneud ffrindiau pan ddaw’r amser! 

Rwy'n gobeithio bod y blog hwn wedi eich helpu chi, a chofiwch fod hwn yn gyfnod cyffrous hefyd! 

Oni nodir yn wahanol, safbwyntiau’r awdur sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Prifysgol Aberystwyth.