Tîm hygyrchedd a chynhwysiant

Rydym yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr anabl newydd a chyfredol, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol hirsefydlog, yn ogystal ag unigolion niwroamrywiol. Ein nod yw sicrhau cwricwlwm cynhwysol a hygyrch i bawb. Rydym yn cynnig cyngor ar y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, llety wedi'i addasu, mynediad i fannau dysgu a mannau addysgu, trefniadau unigol mewn arholiadau, ac addasiadau rhesymol eraill. Hefyd, rydym yn cefnogi myfyrwyr nad oes ganddynt rwydweithiau cymorth traddodiadol, gan gynnwys y rhai sydd wedi gadael gofal, myfyrwyr wedi’u dieithrio oddi wrth eu teuluoedd, ceiswyr lloches, a ffoaduriaid. Rydym hefyd yn cydlynu Mentora Arbenigol a Chymorth Sgiliau Astudio a ddarperir drwy eich Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.

 

Pa gymorth ydyn ni'n ei gynnig?

Rydym yn darparu cyngor a gwybodaeth i ymgeiswyr a myfyrwyr, (gan gynnwys y rhai sydd wedi gadael gofal, myfyrwyr anabl, myfyrwyr awtistig, myfyrwyr â chyflyrau iechyd hirdymor, a'r rhai â gwahaniaethau dysgu penodol), ynghylch y cymorth sydd ar gael i'ch anghenion penodol.

Eich cefnogi drwy'r broses o gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnoch.

Eich cynorthwyo i wneud y mwyaf o'ch presenoldeb mewn Diwrnodau Agored neu Ymweld.

Cymorth gyda gofynion llety sy'n gysylltiedig ag anabledd.

Rhoi cyngor i chi am y broses o ymgeisio am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl neu gyllid arall sydd ar gael i gefnogi eich anghenion unigol.

Eich cynorthwyo i gael mynediad i drefniadau arbennig mewn arholiadau.

Eich cynghori ar y mathau o dystiolaeth sydd eu hangen arnoch i gael mynediad at ddarpariaethau penodol yn y Brifysgol ac unrhyw addasiadau rhesymol.

Trafod gyda chi i ba raddau yr ydych am i'ch anghenion penodol gael eu datgelu i adrannau eraill yn y brifysgol.

Darparu cefnogaeth gyda materion sy'n ymwneud â thrawsrywedd a newid enw.

Darparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi’u dieithrio oddi wrth eu teuluoedd, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Sut y gallwn eich helpu chi?

Cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr Trawsryweddol gyda phethau fel newid enwau.

Eich cynorthwyo i sicrhau cymorth yn yr arholiadau.

Cyngor ar opsiynau llety wedi'u haddasu.

Cymorth gyda cheisiadau am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.

Darparu mentora arbenigol i chi ar gyfer awtistiaeth, ADHD, neu gyflyrau iechyd meddwl fel yr argymhellwyd trwy'ch Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.

Darparu Tiwtora Sgiliau Astudio i’r rhai sydd ag Awtistiaeth, ADHD neu wahaniaethau dysgu penodol fel yr argymhellwyd trwy'ch Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.

Gallwn hefyd gynorthwyo myfyrwyr rhyngwladol i gael cymorth ar wahân i’r Lwfans.