Osgoi Straen yn ystod y Clirio

Student working on North Beach.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae eich lles bob amser yn flaenoriaeth, ac rydym yn gwybod bod diwrnod y canlyniadau a Chlirio weithiau’n gallu peri straen. Os nad yw pethau wedi mynd yn ôl y bwriad, os yw eich diddordebau wedi newid, neu os ydych chi newydd benderfynu mai’r brifysgol yw’r cam nesaf cywir i chi, rydyn ni yma i'ch cefnogi.

Clirio yw eich cyfle i ddod o hyd i gwrs sy'n addas i chi mewn prifysgol y byddwch chi'n ei garu.

Dyma bum ffordd i’ch helpu i aros yn dawel eich meddwl, yn hyderus, ac yn barod i fanteisio i’r eithaf ar y broses Glirio.

  1. Ymbaratowch ymlaen llaw - Gall ychydig bach o gynllunio fynd yn bell. Trwy ystyried rhai canlyniadau posibl cyn diwrnod y canlyniadau, byddwch chi'n teimlo'n dawelach eich meddwl ac mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau os bydd cynlluniau’n newid. Treuliwch ychydig o amser yn ystyried cyrsiau a phrifysgolion sydd o ddiddordeb i chi, hyd yn oed rhai nad ydych wedi’u hystyried o’r blaen. Meddyliwch am yr hyn sydd fwyaf pwysig i chi nawr, boed hynny’n bwnc, lleoliad, neu gostau byw. Gwnewch restr fer o'ch ffefrynnau, ysgrifennwch fanylion cyswllt, a pharatowch ychydig o gwestiynau ymlaen llaw.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cyrsiau neu am astudio yn Aberystwyth, cysylltwch â ni ar clirio@aber.ac.uk / 0800 121 40 80

  2. Meddyliwch yn gadarnhaol - Ceisiwch beidio â chael eich digalonni os nad yw pethau wedi mynd yn ôl y bwriad. Mae Clirio yn gyfle i ailystyried eich opsiynau a dod o hyd i gwrs sy'n eich cyffroi. Cofiwch, nid ydych chi ar eich pen eich hun, mae miloedd o fyfyrwyr fel chi sy'n sicrhau lleoedd prifysgol drwy’r broses Glirio bob blwyddyn.

  3. Cadwch feddwl agored - Clirio yw'r amser delfrydol i ystyried pynciau a phrifysgolion newydd nad oeddech efallai wedi'u hystyried o'r blaen. Hyd yn oed os oeddech chi'n meddwl o'r blaen eich bod chi'n gwbl sicr am yr hyn yr oeddech chi eisiau ei astudio, efallai mai dyma'ch cyfle i ystyried opsiynau eraill. Efallai bod cwrs nad oeddech wedi'i ystyried o'r blaen a fyddai’n gweddu’n berffaith.

  4. Siaradwch â rhywun - Mae penderfyniadau mawr yn teimlo'n haws pan fo gennych gefnogaeth. Gall siarad â theulu, ffrindiau, athrawon neu gynghorwyr eich helpu i deimlo'n gliriach ac yn fwy hyderus am eich penderfyniadau. Weithiau mae lleisio pethau allan yn uchel yn eich helpu i weld beth sy'n iawn i chi. Nid oes raid i chi roi trefn ar bopeth ar eich pen eich hun.

  5. Cymerwch bethau gam wrth gam - Efallai y bydd hi’n ymddangos bod angen gwneud popeth nawr, ond mae'n bwysig nad ydych chi'n rhuthro. Pan fyddwch chi’n barod, cysylltwch â'r prifysgolion y mae gennych ddiddordeb ynddynt.  
    Yn Aberystwyth, gallwch:
    • Ffonio ein Llinell Gymorth: 0800 121 40 80 
    • Gwneud cais ar-lein
    • ysylltu â ni ar Sgwrsio Byw ar ddiwrnod y canlyniadau
    • Gofyn am alwad yn ôl o ddiwrnod y canlyniadau ymlaen

Ar ôl i chi gael cynnig, peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud penderfyniad. Cymerwch amser i feddwl am bethau. Ond cofiwch wneud nodyn o unrhyw amseroedd / dyddiadau cau, fel na fyddwch yn eu hanghofio.