Pam dewis Aberystwyth?

Ers 1872, mae Prifysgol Aberystwyth wedi magu enw da ledled y byd am ragoriaeth ein dysgu a'n hymchwil arloesol. Ar arfordir gorllewinol Cymru, rydym yn cynnig profiad myfyrwyr eithriadol mewn un o leoliadau mwyaf godidog y wlad.

Gall myfyrwyr sy’n ymuno â ni trwy’r broses Glirio o fis Medi 2026 elwa o'r canlynol:

. Sicrwydd llety gydag aelodaeth am ddim i'r Ganolfan Chwaraeon 
. Cerdyn rheilffordd 16-25 am ddim am docynnau trên rhatach ar draws y DU
. Gall fyfyrwyr cymwys gael £2,000 yn eu blwyddyn gyntaf gyda'r Wobr Rhagoriaeth Academaidd.

Mae Aberystwyth ymhlith pum dinas rataf y DU am lety myfyrwyr (Student Crowd 2025), gan gynnig costau byw mwy fforddiadwy na llawer o drefi a dinasoedd eraill.

Darganfyddwch fwy o resymau dros astudio yn Aberystwyth isod.

Ymchwil sy'n arwain y byd

O fynd i'r afael â newid hinsawdd, gwella ansawdd a dulliau cynhyrchu bwyd, hybu iechyd pobl ac anifeiliaid, i ddatblygu deallusrwydd artiffisial a helpu i ddatblygu'r gwaith o archwilio'r gofod, mae ein hymchwilwyr yn flaenllaw ac arloesol, ac mae buddiannau rhyngwladol eang wedi deillio o ddylanwad ac effaith ein hymchwil.

Ymchwil yn Aberystwyth

Profiad unigryw i fyfyrwyr

Yn Aberystwyth, rydym yn ymdrechu i gynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr; mae’r Brifysgol wedi’i gosod ar y brig yng Nghymru am Foddhad Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025). Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i dros 100 o glybiau a chymdeithasau, sy'n golygu mai dyma’ch lle i ddilyn diddordebau oes neu ddarganfod diddordebau newydd. Mae ein campws bywiog yn gartref i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, caffis, bwytai, Canolfan Chwaraeon a meysydd chwarae, yn ogystal â Thai Gwydr y Gerddi Botaneg (sy’n cynnwys planhigion trofannol).

Bywyd yn Aberystwyth

Cymorth ariannol wrth i chi astudio

Yn Aberystwyth, rydym yn cynnig pecyn hael o ysgoloriaethau a bwrsariaethau, a gall myfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth trwy’r broses Glirio fod yn gymwys i dderbyn ein Hysgoloriaeth Rhagoriaeth Academaidd, sy’n werth £2,000 yn y flwyddyn gyntaf.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau