Ymweliadau Clirio

Bydd Ymweliadau Clirio ar gael ddydd Gwener 15, dydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Awst 2025.
Bydd Ymweliadau Clirio ar gael ddydd Gwener 15, dydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Awst 2025. Dyma dy gyfle i siarad â staff canolog a Llysgenhadon yn ogystal â chynrychiolwyr o’n timoedd Derbyn, Cymorth i Fyfyrwyr a Llety.
Os oes gennyt unrhyw gwestiynau cymer olwg ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin neu chysyllta clirio@aber.ac.uk.
Dyddiadau ac Amseroedd
Gelli gyrraedd unrhywbryd o 12:00 ymlaen. Dyma dy gyfle i siarad â staff canolog a Llysgenhadon yn ogystal â chynrychiolwyr o’n timoedd Derbyn, Cymorth i Fyfyrwyr a Llety. Byddi hefyd yn cael Taleb Cinio am ddim, i’w ddefnyddio yng Nghaffi Canolfan y Celfyddydau.
Dy amserlen:
Amser |
Beth? |
O 12:00 |
Cyrraedd a chofrestru |
13:00 - 13:30 |
Sgwrs groeso |
13:30 - 14:30 |
Cwrdd â chynrychiolwr o'r adran academaidd |
14:00 - 16:00 |
Ffair Wybodaeth Cyfle i drafod ymholiadau gyda: Llety Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Ymholiadau Cyffredinol a Bywyd Myfyriwr |
14:00 - 16:30 |
Teithiau Campws ac Ymweliadau Llety |
Beth i'w ddisgwyl?
Bydd ymweld â ni yn rhoi cyfle i ti siarad â staff academaidd yn yr adran academaidd o'th dewis, yn ogystal â chwrdd â staff o'n Timau Llety, Derbyniadau, Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad a Chymorth i Fyfyrwyr.
Byddi hefyd yn gallu mynd ar daith dan arweiniad Llysgennad, o amgylch ein campws. Mae'r daith campws yn daith gerdded ac mae'n cymryd tua 60 munud. Byddwn yn gallu dangos lleoliad adrannau academaidd i ti a mynd â thi i mewn i weld nifer o gyfleusterau ar y campws, gan gynnwys y llyfrgell, gofodau astudio myfyrwyr, darlithfeydd, Canolfan y Celfyddydau a'r Ganolfan Chwaraeon. Byddi hefyd yn gallu gweld detholiad o opsiynau llety ar y campws.
Dyma gyfle gwych i gael teimlad o leoliad y Brifysgol a'r ardal gyfagos.
Cefnogi dy Ymweliad
Mae'n bleser gennym gyfrannu at dy gostau Ymweliad Clirio. Fel Ymgeisydd Clirio galli hawlio hyd at uchafswm o £65.00 yn seiliedig ar bellter taith un ffordd rhwng côd post dy gartref a chôd post prifysgol. Byddwn yn anfon y ffurflen hawlio costau teithio atat ar ôl dy ymweliad.
Milltiroedd |
Cyfanswm |
Llai na 75 milltir |
£15.00 |
75–174 milltir |
£35.00 |
Mwy na 175 milltir |
£65.00 |
Fel ymwelydd Clirio byddi hefyd yn cael taleb cinio am ddim, i’w ddefnyddio yng Nghaffi Canolfan y Celfyddydau.
Rydym hefyd yn falch iawn o gynnig un noson o lety am ddim i ti (yr ymgeisydd) ac un rhiant/gwarcheidwad, yn ein llety yn Fferm Penglais ar nos Wener 15, nos Sadwrn 16 a nos Sul 17 Awst 2025. Gweler y dudalen Cwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth.
Cefnogaeth Ychwanegol
Sylwa ein bod yn gallu cynnig cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n gadael gofal, plant sy'n derbyn gofal, gofalwyr ifanc, y rhai heb unrhyw gymorth teulu a grwpiau ehangu mynediad eraill. Os byddai uchafswm costau’r Ymweliad Clirio yn dy atal rhag ymweld, cysyllta â’r tîm Ehangu Cyfranogiad ar denu-myfyrwyr@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth.